Alpes Poenninae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: br:Alpes Poenninae
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:REmpire-alpes pennines.png|thumb|right|300px|Talaith Alpes Poenninae]]
Roedd '''Alpes Poenninae''' neu yn llawn '''Alpes Poenninae et Graiae''' yn [[Talaith Rufeinig|dalaith]] o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Hi oedd y mwyaf gogleddol o'r tair talaith fechan yn ardal yr [[Alpau]]. Roedd y dalaith yn cynnwys yr Alpau yn ardal y Valais, rhwng [[Ffrainc]], [[Y Swistir]] a'r [[Eidal]]. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a [[Gallia Narbonensis]], gyda talaith [[Raetia]] i'r dwyrain, [[Germania Superior]] i'r gogledd ac [[Alpes Cottiae]] a'r Eidal i'r de.
 
Yr oedd Alpes Poenninae yn wreiddiol yn diriogaeth llwythi [[Gâl|Galaidd]] y [[Nantuates]], y [[Veragroa]], y [[Sedunos]] a'r [[Uberos]]. Gorchhfygwyd hwy gan [[Iŵl Cesar]] yn y flwyddyn [[58 CC]], a meddianwyd y diriogaeth yn [[15 CC]] dan yr ymerawdwr [[Augustus]] gan fyddin oedd dan arweiniad [[Tiberius]] a [[Drusus]]. Nid yw'n eglur a grewyd y dalaith yr adeg honno neu'n ddiweddarach yn nheyrnasiad [[Claudius]].