Robert Myddelton-Biddulph: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
==Gyrfa Cyhoeddus==
Bu ymgais cyntaf Myddelton-Biddulph i gyrraedd y Senedd yn etholiad Cyffredinol 1826. Yn y dyddiau hynny doedd yna ddim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis Aelod Newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf; mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Roedd Robert wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll, wedi cyhoeddi datganiad etholiadol ac wedi mynd ati i ymgyrchu’n frwd dros achos y Chwigiaid gyda phob rhagolwg yn awgrymu ei fod am ennill,. erEr mwyn rhwystro'r ymgyrch penderfynodd Thomas Fitzhugh y Tori o Uchel Siryf i alw'r etholiad ar 12fed Mehefin, wythnos cyn y byddai Myddelton-Biddulph yn 21 oed ac yn gymwys i sefyll.
 
Safodd fel ymgeisydd dros fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad cyffredinol 1830 gan ennill y sedd yn ddiwrthwynebiad. Yn etholiad cyffredinol 1832 fe safodd yn etholaeth Sir Ddinbych gan gipio'r ail sedd. Collodd ei sedd i'r Ceidwadwyr ym 1835.