Arch Noa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Noahs Ark.jpg|270px|bawd|Arch Noa : paentiad gan [[Edward Hicks]], 1789]]
[[Image:Noah private col.moscow.jpeg|150px|bawd|Arch Noa : paentiad Islamaidd i ddarlunio'r Coran, 16eg-18fed ganrif]]
Yn ôl traddodiad, [[llong]] bren anferth a adeiladwyd gan y patriarch [[Noa]] i achub ei deulu a'r anifeiliaid rhag [[Y Dilyw]] oedd '''Arch Noa'''. Ceir ei hanes yn ''[[Llyfr Genesis]]'' yn yr [[Hen Destament]], y [[Torah]] Iddewig a'r [[Coran]].
 
Yn adroddiad Y Dilyw yn y Beibl (Gen. 6-9), mae [[Duw]] yn gorchymyn i Noa adeiladu arch i achub ef a'i dri mab, sef [[Sem]], [[Ham (Beibl)|Ham]] a [[Jaffeth]] (tad [[Gomer fab Jaffeth|Gomer]]) a'u gwragedd, a deuryw anifeiliaid y byd gyda nhw, rhag y Dilyw. Credir fod y chwedl o darddiad [[Babilon]]aidd.
 
Disgrifir hi (Gen 6:14-16) fel ystordy enfawr a fedrai nofio, er na ddywedir yn benodol bod y gwaelod ar ffurf llong. Roedd yn 300 [[cufydd]] (525 troedfedd) o hyd, 50 cufydd (87.5 troedfedd) o led, a 30 cufydd (52.5 troedfedd) o uchter. Ei defnydd oedd "pren goffer" (sydd a'i ystyr yn ansicr), wedi ei orchuddio oddi fewn ac oddi allan â [[pyg|phyg]], yn ôl yr afer gyda llongau [[afon Ewffrates]]. Rhennid hi yn ystafelloedd (yn llythrennol, "nythod"), ac yr oedd iddi dri llawr, gyda ffenestri o dan y to ar bob ochr, a drws yn ei hystlys.
 
Pan ddaeth yr arch i orffwys ar dir sych eto - ar [[Mynydd Ararat|Ararat]] - adeiladodd Noa allor ac offrymodd i Dduw. Gwnaeth Duw gyfamod ag ef, a gynrychiolir gan yr enfys (Gen 9:9-17).
 
Am fod y arch wedi arnofio'n ddiogel ar wyneb dyfroedd y Dilyw, mae'n symbol o'r [[Eglwys]].
 
Mae'r arch a hanes y Dilyw wedi ysbrydoli sawl artist dros y canrifoedd, yn Ewrop a'r byd Islamaidd. Heddiw mae Arch Noa yn symbol a ddefnyddir weithiau i gynrychioli [[cadwraeth]] a gwarchod anifeiliaid hefyd, am ei bod yn fodd i achub anifeiliaid y byd rhag dinistr.
 
== Cyfeiriadau ==