Yr Almaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 60:
Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o [[Afon Rhein]] yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn [[9|9 OC.]] gorchfygwyd byddin Rufeinig dan [[Publius Quinctilius Varus]] gan gynghrair o lwythau Almaenig dan [[Arminius]] ym [[Brwydr Fforest Teutoburg|Mrwydr Fforest Teutoburg]]. Dinistriwyd tair [[lleng Rufeinig]] yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.
 
Sefydlwyd [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] yn y [[9g]], a pharhaodd hyd [[1806]]. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys [[Awstria]], [[SloveniaSlofenia]], [[Gweriniaeth Tsiec]], gorllewin [[Gwlad Pwyl]], [[yr Iseldiroedd]], dwyrain [[Ffrainc]], [[y Swistir]] a rhan o ogledd [[yr Eidal]]. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y [[16g]], a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
 
Rhwng [[1618]] a [[1648]], effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r [[Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain]]. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y [[Protestaniaeth|Protestaniaid]] a'r [[Eglwys Gatholig|Catholigion]] o fewn yr [[Ymerodraeth Lân Rufeinig]]. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o [[hurfilwyr]], ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn [[Brandenburg]] roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o [[Heddwch Westphalia]].