Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 8:
 
==Ei ramadeg==
Cyhoeddwyd rhan gyntaf y gramadeg, sef ''[[Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg|Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg]]'', ym Milan yn 1567; y dyddiad a roddir ar wyneb-ddalen y gyfrol yw Dydd Gŵyl Ddewi. Ni cheir dyddiad ar gyfer y rhannau eraill, ond y tebyg yw fod yr ail, sy'n trafod yr wythran ymadrodd (''cyfiachyddiaeth''), wedi dod o'r wasg rywdro ar ôl marwolaeth Carlo Borromeo ym mis Tachwedd 1584; diau i Robert gael mwy o hamdden wedyn i weithio ar ei ramadeg.<ref name="ReferenceA" />. Cyhoeddwyd y drydedd ran (''tonyddiaeth''), a'r bedwaredd, sy'n trafod y cynganeddion a mesurau cerdd dafod cyn 1598. Ymgom mewn [[gwinllan]] rhwng dau y cyfeirir atynt fel 'Gr.' (sef Gruffydd Robert ei hun) a 'Mo.' (Morys Clynnog) yw strwythur y gramadeg. Tueddir i ystyried dau waith arall o'i eiddo, sef casgliad o gerddi Cymraeg a chyfieithiad o ''[[De Senectute]]'' gan [[Cicero]] (cyfrol na ddaeth o'r wasg yn gyflawn), yn fath o atodiadau i'r gramadeg;<ref name="ReferenceA"/> er hynny, y mae'n llawn mor bosibl mai gweithiau annibynnol ydynt. Ef hefyd a olygodd yr ''Athravaeth Gristnogavl'', sef cyfieithiad Morys Clynnog o destun cateceiddiol gan yr Iesuwr, Diego de Ledesma.
 
==Llyfrau eraill==