Pensaernïaeth Gothig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B math anghywir o garreg
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu cyfeiriad at y gothiaid, am fod ganddynt erthygl
Llinell 5:
Roedd cymeriad gwahanol iawn gan arddulliau Gothic lleol gwahanol wledydd – er enghraifft, yn [[yr Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] roedd briciau yn ddeunydd poblogaidd, tra bo [[gwenithfaen]] yn cael ei ddefnyddio ar gyfer [[eglwys gadeiriol|cadeirlannau]] Ffrainc a [[Lloegr]].
 
O'r [[Dadeni Dysg]] ymlaen ystyrrwyd pensaernïaeth Gothig yn farbaraidd (yn wir, pan bathwyd y term "gothig", o gwmpas yr adeg yma, roedd yn derm dirmygus a oedd yn cyfeirio at y [[gothiaid]] paganaidd) a daeth adeiladau yn yr arddull clasurol yn fwyfwy ffasiynol. Dim ond yn y [[19eg ganrif]], pan ddatblygodd delwedd rhamaintaidd o'r Oesoedd Canol, y bu adfywiad o'r arddull, a ddechreuodd ym [[Prydain|Mhrydain]]. Yn dilyn effeithiau gwaethaf y [[Chwyldro Diwydiannol]] roedd llawer o feddylwyr y cyfnod am ddychwelyd at ethos gwaith a [[Cristnogaeth|Christnogaeth]] yr Oesoedd Canol, a mynegwyd hyn drwy bensaernïaeth yr oes. Parhaodd defnydd o'r arddull Gothig ar gyfer rhai eglwysi a [[prifysgol|phrifysgolion]] yn yr [[20fed ganrif]].
 
{{stwbyn}}