Trefedigaeth y Goron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Gweler hefyd: gwa Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Meddai'r llywodraethwr ar faint sylweddol o rym ac awdurdod, a chafodd ei gynorthwyo yn y blynyddoedd cynnar gan gyngor penodedig. Yn y 1820au a'r 1830au, cafodd y system ei diwygio mewn sawl tiriogaeth gan gyflwyno cynghorau deddfwriaethol ac gweithredol i gynorthwyo'r llywodraethwr. Gan amlaf, cafodd aelodau'r cynghorau eu penodi gan y llywodraethwr ei hunan. Yn ddiweddarach yn oes yr Ymerodraeth Brydeinig, daeth ambell drefedigaeth y Goron i ddefnyddio cynghorau etholedig.
Dyluniwyd y system yn gyntaf gan yr Arglwydd Hawkesbury ar gyfer trefedigaeth [[Martinique]]. Ymledodd ei arferion i ynysoedd cyfagos yn [[India'r Gorllewin]], gan gynnwys [[Trinidad]] a [[
Nid oedd pob rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig yn drefedigaeth y Goron. Cafodd ambell diriogaeth ei rheoli gan gwmnïau preifat, er enghraifft [[India]] dan [[Cwmni India'r Dwyrain|Gwmni India'r Dwyrain]]. Rhoddwyd ymreolaeth trwy statws [[dominiwn]] i'r gwledydd a chanddynt boblogaeth wen sylweddol, sef [[Canada]], [[Awstralia]], [[Seland Newydd]], [[De Affrica]], [[Newfoundland]], ac [[Iwerddon Rydd|Iwerddon]]. Roedd nifer o drefedigaethau'r Goron yn [[protectoriaeth|brotectoriaethau]] ynghynt, gan gynnwys [[Aden]], [[Nigeria]], [[Sansibar]], ac [[Wganda]]. [[Hong Cong]] oedd trefedigaeth olaf y Goron, nes ei hildio i [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Tsieina]] ym 1997.
|