Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstria"

B
dim crynodeb golygu
B (→‎top: clean up)
B
 
Mae '''Tîm pêl-droed cenedlaethol Awstria''' ([[Almaeneg]]: ''Österreichische Fußballnationalmannschaft'') yn cynrychioli [[Awstria]] yn y byd [[pêl-droed]] ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Awstria ([[Almaeneg]]: ''Österreichischer Fußball-Bund'') (ÖFB), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r ÖFB yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, ([[UEFA]]).
 
Mae Awstria wedi chwarae yn rowndiau terfynol [[Cwpan y Byd Pêl-droed|Cwpan y Byd]] saith o weithiau gan orffen yn drydydd ym [[Cwpan y Byd Pêl-droed 1954|1954]]. Unwaith yn unig mae Awstria wedi cyrraedd rowndiau terfynol [[Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop]] a hynny pan cynhaliwyd y gystadleuaeth ar y cyd rhwng Awstria a'r [[y Swistir|Swistir]] yn [[Pencampwriaeth pêl-droed Ewrop 2008|2008]]. Maent hefyd wedi cipio'r fedal arian yng [[Gemau Olympaidd yr Haf 1936|Ngemau Olympaidd Berlin 1936]].