Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari"

B
dim crynodeb golygu
B (→‎top: clean up)
B
Mae '''Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari''' ([[Hwngareg]]: ''Magyar labdarúgó-válogatott'') yn cynrychioli [[Hwngari]] yn y byd [[pêl-droed]] ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari ([[Hwngareg]]: ''Magyar Labdarúgó Szövetség'') (MLSZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r MLSZ yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, ([[UEFA]]).
 
Mae Hwngari wedi chwarae yn rowndiau terfynol [[Cwpan y Byd Pêl-droed|Cwpan y Byd]] naw o weithiau gan orffen yn ail yn y gystadleuaeth ym [[Cwpan y Byd Pêl-droed 1938|1938]] a [[Cwpan y Byd Pêl-droed 1954|1954]]. Maent hefyd wedi gorffen yn drydydd ym [[Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop|Mhencampwriaethau Pêl-droed Ewrop]] ym [[Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop 1964|1964]] a chipio'r fedal aur yng [[Gemau Olympaidd yr Haf|Ngemau Olympaidd yr Haf]] deirgwaith, yng [[Gemau Olympaidd yr Haf 1952|Ngemau Olympaidd Helsinki 1952]], [[Gemau Olympaidd yr Haf 1952|Tokyo 1964]] a [[Gemau Olympaidd yr Haf 1952|Dinas Mecsico 1968]].