Mangas Coloradas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pennaeth [[Apache]] ac aelod o'r [[Chiricahua]] Dwyreiniol sy'n adnabyddus fel un o arweinwyr mawr ei bobl yn eu gwrsthafiad hir yn erbyn yr [[Unol Daleithiau]] oedd '''Mangas Coloradas''' neu '''Dasoda-hae''' (adnabyddid hefyd fel '''Crysau Cochion''') (tua [[1793]] - [[18 Ionawr]], [[1863]]). Roedd ei fam-fro yn ymestyn i'r gorllewin o'r [[Rio Grande]] i gynnwys rhan helaeth yr hyn sy'n dde-orllewin [[New Mexico]] heddiw.
 
===Arweinydd rhyfel===
Yn y 1820au a'r 1830au, prif elyn yr Apache oedd y [[Mecsicanwyr]], a oedd wedi ennill annibyniaeth oddi ar [[Sbaen]] yn 1821. Erbyn 1835 roedd llywodraeth [[MexicoMecsico]] yn cynnig gwobrau ariannol am [[sgalp]]au'r Apache: $100 am sgalp dyn, $50 am sgalp merch, a $25 am sgalp plentyn. Ar ôl i Juan José Compa, pennaeth yr Apache Mimbreno, gael ei ladd gan helwyr sgalpau gwyn yn 1837, daeth Mangas yn arweinydd rhyfel a dechreuodd gyfres o gyrchoedd mewn dial ar y Mecsicanwyr.
 
Yn 1846 aeth yr Unol Daleithiau i ryfel a Mecsico, a warantiodd Cenedl yr Apache saffgwndid i filwyr yr UD groesi ei thir. Ar ôl i'r UD feddiannu [[New Mexico]] yn 1846, arwyddodd Mangas Coloradas gytundeb heddwch gyda llywodraeth UDA. Ond ansefydlog oedd yr heddwch hwnnw; dechreuodd mewnfudwyr yn ceisio [[aur]] a thir aflonyddu ar yr Apache a bu ymladd rhyngddynt. Yn 1851, ger gwersyll cloddio Pinos Altos, ymosododd y mwyngloddwyr ar Mangas a'i sarhau. Dilynodd cyfres o ddigwyddiadau tebyg ac ymledodd yr ymladd. Yn Rhagfyr 1860 lawnsiodd 30 o fwyngloddwyr ymosodiad sydyn ar wersyllfa Apaches Bedonkohes ar lan [[Afon Mimbres]], gan ladd pedwar a dal 13 o ferched a phlant. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Mangas ymosod ar yr ymsefydlwyr Americanaidd.