Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cymdeithas a diwylliant: mytholeg a chwedloniaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 66:
 
Y [[teulu cnewyllol]], hynny yw y gŵr a'r wraig a'u plant, yw uned sylfaenol yr aelwyd. Yn y cefn gwlad, arferai'r meibion oedd mewn oed ond heb briodi fyw ar y fferm neu'r ystâd deuluol a gweithio'n ddi-dâl. Yn draddodiadol bu [[gweddw|gwraig weddw]], neu ŵr gweddw ac wedi ymddeol, yn byw gyda merch â'i gŵr hi. Ers yr Oesoedd Canol bu'r Cymry yn [[cymynrodd]]i rhywbeth i bob un o'r plant. Gadewir tir i un o'r meibion, gan amlaf yr olaf-anedig. Bu'r brodyr a chwiorydd hŷn yn derbyn eu hetifeddiaeth ar adeg eu priodasau, ac yn aml byddai hyn yn ddodrefn, tir neu dŷ wedi prynu, neu drysorau teuluol.<ref name=Gale/>
 
=== Plant ===
Cafodd plant y Cymry eu disgyblu'n draddodiadol drwy [[cosb gorfforol|gosb gorfforol]], esiampl foesol, a dysgeidiaeth grefyddol, yn enwedig yng nghymunedau’r capeli.<ref name=Gale/> Yr [[ysgol Sul]] oedd yn darparu addysg foesol a deallusol i genedlaethau o Gymry o ddechrau’r 19g hyd ganol yr 20g. Yng Nghymru'r 21g mae plant yn dysgu ac yn cymdeithasu'n bennaf yn yr ysgol, fel rheol [[ysgol gynradd]] o oed pedwar i un ar ddeg, ac [[ysgol uwchradd]] o un ar ddeg i ddeunaw. Mae nifer o blant rhwng tri a phump oed yn mynychu [[ysgol feithrin|cylch meithrin]], ac mae [[Mudiad Ysgolion Meithrin]] yn hyrwyddo addysg feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Plant y Cymry Cymraeg sydd yn hawlio’r mudiad ieuenctid mwyaf ei faint yn Ewrop, [[Urdd Gobaith Cymru]], a sefydlwyd gan Syr [[Ifan ab Owen Edwards]] yn 1922. Ei nod yw rhoi cyfle i’r ifanc i fyw bywyd Cymraeg a Chymreig. Cynhelir [[Eisteddfod yr Urdd]] bob Gŵyl y Gwanwyn, a gwersylloedd haf yn [[Gwersyll yr Urdd Llangrannog|Llangrannog]] a [[Gwersyll yr Urdd Glan-llyn|Glan-llyn]].
 
<gallery>
Delwedd:Lady Llanover's painting of c. 1836.jpg|bawd|Paentiad gan [[yr Arglwyddes Llanofer]], portread mae'n debyg o'i merch Charlotte Augusta (tua 1836).]]
Delwedd:Aspects of Amman Valley life before the Urdd Eisteddfod was held there in 1949 (11992860875).jpg|Bechgyn yn chwarae marblis yn iard yr ysgol, [[Afon Aman|Dyffryn Aman]] (1949).
Delwedd:Machynlleth Junior School (5451200158).jpg|Merched Ysgol Gynradd [[Machynlleth]] yn y wisg Gymreig yn Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi (1952).
Delwedd:Children of Moss Valley, near Wrexham (5184990028).jpg|Plant o Ddyffryn Moss, ger [[Wrecsam]] (1953).
Delwedd:Rugby world cup 2011 wales fidji 6 octobre 2011 - 7309569148.jpg|bawd|Cymro ifanc y gwisgo crys ei dîm cenedlaethol yn ystod [[Cwpan Rygbi'r Byd 2011]].
Delwedd:Urdd Eisteddfod 2017 - 29 May - Ensemble Competition - brass band.jpg|bawd|Band pres ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd 2017 ym [[Pen-coed|Mhen-coed]].
</gallery>
 
== Diwylliant ==