Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
enwau
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 66:
 
Y [[teulu cnewyllol]], hynny yw y gŵr a'r wraig a'u plant, yw uned sylfaenol yr aelwyd. Yn y cefn gwlad, arferai'r meibion oedd mewn oed ond heb briodi fyw ar y fferm neu'r ystâd deuluol a gweithio'n ddi-dâl. Yn draddodiadol bu [[gweddw|gwraig weddw]], neu ŵr gweddw ac wedi ymddeol, yn byw gyda merch â'i gŵr hi. Ers yr Oesoedd Canol bu'r Cymry yn [[cymynrodd]]i rhywbeth i bob un o'r plant. Gadewir tir i un o'r meibion, gan amlaf yr olaf-anedig. Bu'r brodyr a chwiorydd hŷn yn derbyn eu hetifeddiaeth ar adeg eu priodasau, ac yn aml byddai hyn yn ddodrefn, tir neu dŷ wedi prynu, neu drysorau teuluol.<ref name=Gale/>
 
=== Enwau ===
{{prif|Enwau'r Cymry}}
Mae ffynonellau enwau personol y Cymry yn cynnwys enwau cyndeidiau, enwau Beiblaidd, enwau enwogion, ac enwau tramor. Mae enwau traddodiadol Cymraeg yn boblogaidd hyd heddiw, ymhlith Cymry Saesneg eu hiaith yn ogystal â'r Cymry Cymraeg. Arfer gyffredin oedd i enwi'r mab hynaf ar ôl ei daid ar ochr ei dad, enwi'r ail fab ar ôl ei dad, ac enwi'r ferch hynaf a'r ail ferch ar ôl eu neiniau.<ref name=Gale/> Yr hen arfer Gymreig o enwi pobl oedd galw rhywun yn ôl ei enw neu ei henw personol ac ychwanegu enw'r tad a'i dad yntau, weithiau am sawl cenhedlaeth gynharach, er enghraifft Llywelyn ap Dafydd ap Llywelyn, Rhiannon ferch Llŷr. Erbyn heddiw mae'r mwyafrif o Gymry yn meddu ar enw llawn yn ôl arfer y byd Saesneg sydd yn cyfuno enw neu enwau personol â chyfenw teuluol. Ymhlith cyfenwau mwyaf cyffredin y Cymry mae Jones, Williams, a Davies.
 
Mae arallenwau a [[llysenwau Cymraeg|llysenwau]] yn gyffredin iawn yng Nghymru, yn rhannol oherwydd bod cymaint o Gymry a'r un enw ganddynt, a'r arallenwau yn fodd i wahaniaethu rhyngddynt. Mae llysenwau lliwgar, sydd yn aml yn cyfeirio at alwedigaeth, nodweddion corfforol neu bersonoliaeth, yn rhan amlwg o ddiwylliant ardaloedd diwydiannol a threfol Cymru. Hen draddodiad ers yr Oesoedd Canol yw'r [[enw barddol]].
 
=== Plant ===