Hopcyn ap Tomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd Hopcyn yn un o wŷr mwyaf dysgedig ei oes yn [[llenyddiaeth Gymraeg|llenyddiaeth]] a [[hanes Cymru]]. Roedd yn gasglwr a chopïwr [[llawysgrif]]au brwd ac ar un adeg bu rhai o drysorau'r genedl yn ei gartref yn Ynysforgan.
 
Gwyddys ei fod yn berchen ar [[Llyfr Coch Hergest|Lyfr Coch Hergest]] gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuallt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn y lluniwyd y llawysgrif enwog honno. Copïydd lleyg (h.y. heb weithio mewn [[sgriptoriwm]]) oedd Hywel, ac ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn ap Tomas. Ceir dim llai na phum [[awdl]] i Hopcyn yn y Llyfr Coch, gwaith [[Llywelyn Goch ap Meurig Hen]], [[Dafydd y Coed]], [[Madog Dwygraig]], [[Meurig ab Iorwerth]] ac [[Ieuan Llwyd apab y Gargam]]. Yn ogystal ceir awdl gan [[Y Proll]] i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd.
 
Mae [[Dafydd y Coed]] yn dweud am Hopcyn ei fod yn hael eithriadol a bod copïau o'r ''[[Elucidarium]]'', y [[Ystoryaeu Seint Greal|Sant Greal]], a llyfrau [[Cyfraith Hywel Dda]] a'r [[Annales Cambriae]] yn ei lys:
Llinell 12:
:Eurddar, y Lusidarius,
:A'r Greal a'r Yniales,
:A grym pob cyfraith a'i gras.<ref>''Gwaith Dafydd y Coed'', 3.91-6.</ref>
('Moliant Hopcyn ap Tomas', ''op. cit.'' isod)
 
 
Dywedir fod Hopcyn yn barddoni yn ogystal, ond nid oes enghraifft o'i waith ar gael heddiw. Roedd ei chwaeth mewn llenyddiaeth yn geidwadol ac ymddengys nad oedd yn meddwl llawer o'r [[cywydd]] ffasiynol newydd.
Llinell 21 ⟶ 19:
 
Ni wyddys pryd fu farw ond roedd yn fyw yn 1403, pan gyfarfu Glyndŵr, ac efallai mor ddiweddar â [[1408]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Ffynonellau==