Madog ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Prif arweinydd [[gwrthryfel Cymreig 1294-95]], a elwir weithiau 'Gwrthryfel Madog', oedd '''Madog ap Llywelyn''' (''fl.'' [[1294]]). Gyda [[Cynan ap Maredudd]] yn y Canolbarth a [[Maelgwn ap Rhys (gwrthryfelwr)|Maelgwn ap Rhys]] y De, llwyddodd am gyfnod i ryddhau rhannau o Gymru o afael y Saeson fel arweinydd gwrthryfel cenedlaethol a ymladdwyd ar draws Gymru.
Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bu'n wrthwynebus i bolisïau [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ac arweiniodd y [[Cymry]], oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau [[Statud Rhuddlan]] ([[1284]]), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr [[Edward I o Loegr]].
|