James Francis Edward Stuart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Hawlydd gorsedd Lloegr a'r Alban oedd '''James Francis Edward Stuart''' ([[10 Mehefin]] [[1688]] - [[1 Ionawr]] [[1766]]). Roedd yn fab i [[Iago II]], a hawliai'r orsedd fel Iago III / VIII.
 
Diorseddwyd ei dad yn 1688, yn fuan ar ôl genedigaeth y mab. Yn ei le, daeth ei ferch, [[Mari II, brenhines Lloegr a'r Alban|Mari II]] a'i gŵr [[Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban|Wiliam III]] (Wiliam o Orange) i'r orsedd. Wedi ei marwolaeth hwy, daeth [[Anne, brenhines Prydain Fawr|Anne]], un arall o ferched Iago II/ VII, yn frenhines. Magwyd James yn [[Ffrainc]], lle roedd [[Louis XIV, brenin Ffrainc]] yn ei gydnabod fel gwir frenin Lloegr a'r Alban.
 
Bu'r frenhines Anne farw yn [[1714]], a daeth [[Etholwr Hannover]] yn frenin fel [[Siôr I, brenin Prydain Fawr|Siôr I]]. Erbyn hyn roedd deddf ''Act of Settlement 1701'' yn mynny fod rhaid i'w holynydd fod yn Brotestant. Gan fod James Stuart yn [[Eglwys Gatholig|Gatholig]], caewyd ef allan o'r olyniaeth.
 
Roedd cefnogaeth i deulu'r Siwartiaid yn parhau yn gryf yn [[Iwerddon]], [[Ucheldiroedd yr Alban]] a rhannau o Ogledd [[Lloegr]]. Gelwid pleidwyr y Stiwartiaid yn [[Jacobitiaid]], o'r ffurf [[Lladin|Ladin]] o "Iago". Gwnaed ymgais i roi James ar yr orsedd yn [[1715]], ond methodd yr ymdrech wedi i'r fyddin Jacobitaidd fethu gorchfygu byddin y llywodraeth ym [[Brwydr Sheriffmuir|Mrwydr Sheriffmuir]]; roedd gwrthryfel byrhoedlog yn 1719 yn aflwyddiannus hefyd. Bu ymgyrch arall yn [[1745]], pan laniodd mab James Stuart, [[Charles Edward Stuart]], (''Bonnie Prince Charlie'') yn Ucheldiroedd yr Alban a chodi byddin i geisio rhoi ei dad ar yr orsedd. Cafodd ei ddilynwyr nifer o lwyddiannau, ond gorchfygwyd hwy ym [[Brwydr Culloden|Mrwydr Culloden]].