Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru''' (Saesneg: ''Welsh Local Government Association'') yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru,…
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru''' (Saesneg: ''Welsh Local Government Association'') yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|awdurdodau lleol Cymru]], sef y cyrff sy'n rhedeg [[sir]]oedd, bwrdeistrefi sirol a dinasoedd [[Cymru]], a hyrwyddo [[democratiaeth]] mewn [[llywodraeth leol]] yn y wlad. Mae 22 awdurdod lleol Cymru yn aelodau o'r Gymdeithas ac mae awdurdodau tân ac achub Cymru, pedwar [[Heddluoedd Cymru|awdurdod yr heddlu]] ac awdurdodau'r tri [[Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig|pharc cenedlaethol]] yn aelodau cyswllt.
 
Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1996 pan gyflwynwyd awdurdodau unedol newydd yng Nghymru. Cyn hynny roedd llywodraeth leol Cymru yn cael ei chynnwys yn ddiwahân gyda [[Lloegr]] (gweler [[Cymru a Lloegr]]). Ond mae CLlLC o hyd yn rhan o 'Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr' (Saesneg: ''Local Government Association'' neu'r ''LGA'') fel aelod cyswllt am fod rhai materion llywodraeth leol yn dal i gael eu penderfynu yn [[San Steffan]] gan [[Llywodraeth y DU]] fel rhan o'r drefn sy'n cynnwys Cymru gyda Lloegr o fewn y DU. Does gan Loegr ddim gymdeithas lywodraeth leol iddi ei hun o fewn yr LGA.<ref>[http://www.lga.gov.uk/lga/core/page.do?pageId=13896 LGA]</ref>
 
Yn ôl CLlLC, ei phrif ddibenion yw "hyrwyddo safonau ac enw da maes llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau i'r cyhoedd a democratiaeth".<ref>[http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/amdanon-ni/ CLlLC]</ref>
 
Prif gorff gweinyddol y Gymdeithas yw Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sydd gyda 79 o aelodau, gan gynnwys o leiaf 2 o bob awdurdod sy’n aelod. Mae’r cyngor yn cynnal cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.<ref>[http://www.wlga.gov.uk/cymraeg/strwythyr-gwleidyddol/ CLlC]</ref>
 
== Aelodau ==