Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymuned (Cymru)"

Ychwanegwyd 110 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Wedi symud Cymuned (llywodraeth leol) i Cymuned (Cymru): gwahaniaethu)
'''Cymuned''' yw'r uned leiaf o [[Llywodraeth leol|lywodraeth leol]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Hyd [[1974]], rhennid Cymru yn [[Plwyf|blwyfi sifil]] ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yny rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan [[Deddf Llywodraeth Leol, 1972|Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972]], diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf). Amrywia'r cymunedau o rannau o ddinasoedd gyda phoblogaeth sylweddol - y fwyaf o ran poblogaeth yw [[Y Barri]] gyda phoblogaeth o 45,053 - hyd at o leiaf ddwy gymuned sydd heb boblogaeth barhaol o gwbl, [[Bae Baglan]] a [[Morfa Margam]].
 
Gall pob cymuned gael [[Cyngor Cymuned]]. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor TrefolTref neu'n Gyngor DinesigDinas lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: [[Tyddewi]] a [[Bangor]]. Rhennir dinasoedd mwy, megis [[Caerdydd]], yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor DinesigDinas neu Gyngor TrefolTref yn [[Maer|Faer]]. Cynrychiolir cynghorau cymuned a thref Cymru gan [[Un Llais Cymru]].
 
Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gall cymuned ofyn i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeisdref sirol berthnasol am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir neu fwrdeisdref sirol.
At bwrpas etholiad, gall cymuned gael ei rhannu yn nifer o wardiau cymunedol, neu gall fod un ward gyda'r un enw a'r un ffiniau a'r gymuned, neu gellir cyfuno mwy nag un gymuned i grau ward.
 
===Gweler hefyd===
 
===Gweler hefyd===
*[[Rhestr o Gymunedau Cymru]]
*[[Un Llais Cymru]]
 
 
[[Categori:Cymunedau Cymru| ]]
[[Categori:Llywodraeth leol yng Nghymru]]
[[Categori:Daearyddiaeth Cymru]]