Ffrangeg Normanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Tafodiaith ganoloesol o'r iaith Ffrangeg yw '''Ffrangeg Normanaidd'''. Normandi yng ngogledd Ffrainc oedd ei thiriogaeth wreiddiol. Hon oedd sail yr iaith lenyddol a …
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Tafodiaith]] ganoloesol o'r iaith [[Ffrangeg]] yw '''Ffrangeg Normanaidd'''. [[Normandi]] yng ngogledd [[Ffrainc]] oedd ei thiriogaeth wreiddiol. Hon oedd sail yr iaith lenyddol a ddatblygodd yng [[Gwledydd Prydain|ngwledydd Prydain]] ac [[Iwerddon]] ac a elwir weithiau yn '''Eingl-Ffrangeg''' (Ffrangeg Seisnig) a'i llenyddiaeth yn 'Eingl-Normanaidd' neu 'Eingl-Ffrengig'. Yn Normandi roedd hi'n iaith gyffredin i bawb ond yng ngwledydd Prydain iaith yr uchelwyr a'r llys oedd hi yn bennaf.
 
Ceir tystiolaeth fod y tywysogion Cymreig yn ei deall yn ddigon da i'w siarad; pan ddaeth y [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Y Dywysoges Siwan]] i fyw gyda'i gŵr [[Llywelyn Fawr]] yn llys [[Abergwyngregin]], dyma fyddai'r iaith a siaradent gan nad oedd hi'n deall Cymraeg; cafodd ei magu mewn llys lle siaradai pawb Ffrangeg Normanaidd ac mae'n anhebygol y byddai Llywelyn yn deall llawer o Saesneg. Mae'n debygoldebyg fod y rhai o'r beirdd a'r dysgedigion yng Nghymru yn gyfarwydd â'r iaith hefyd ac roedd hi'n iaith anhebgor ar gyfer trafodaethau rhwng y tywysogion ac arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] a'r Saeson.
 
Bu'r Ffrangeg Normanaidd yn gyfrwng i lenyddiaeth sylweddol ar ddwy ochr Môr Udd, yn ymestyn o oes [[Phillipe de Taon]] (tua 1120) hyd gyfnod [[John Gower]] (tua 1400). Cyfansoddwyd nifer o'r [[rhamant]]au [[Arthur]]aidd yn yr iaith hefyd.