Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crynoddisg"

Ychwanegwyd 541 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
gogwydd Gymreig
B
(gogwydd Gymreig)
[[Delwedd:CD autolev crop.jpg|bawd|200px|Crynoddisg]]
 
[[Disg optegol]] a ddefnyddir i storio [[data digidol]] yw '''crynoddisg''', '''CD-ROM''' neu '''CD'''. Dechreuodd datblygiad y gyfrwng gan y cwmniau [[electroneg]] [[Philips]] a [[Sony]] yn [[1979]]. Bu'n dair blynedd cyn fod y crynoddisg yn cael ei ryddhau yn [[1982]]. Yn wreiddiol, cynlluniwyd y crynoddisg fel cyfrwng ar gyfer storio [[cerddoriaeth digidol]] yn unig, oherwydd fod golwg y disgiau yn debyg i [[recordiau finyl]], ond addaswyd y dechnoleg yn hwyrach i'w ddefnyddio fel dyfais storio data amlbwrpas. Felly, rhyddhawyd y [[CD-ROM]] ym mis Mehefin 1985, a fyddai'n dod yn brif gyfrwng ar gyfer [[meddalwedd cyfrifiadurol]] am dros ddegawd rhwng 1993 a 2005, pan ddaeth y we fyd-eang yn gryfach cyfrwng.
 
Ystyr "CD" ydy talfyriad o "Compact Disg" (Cryno Ddisg); ac ystyr "ROM" ydy Read Only Memory.
 
Roedd y CD-ROM rhyngweithiol yn defnyddio sain, llun, ffilm, animeiddiadau "Flash" ayb ac yn rhoi cyfle i'r defnyddiwr roi mewnbwn. Oherwydd hyn, roeddent yn cael eu defnyddio llawer fel adnodd addysgol. Un o'r cyntaf yn y Gymraeg oedd y gyfres hanes honno "FfotoBanc Cymru" gan Gyhoeddiadau Sycharth.
 
==Dolennau allanol==
* [https://www.wjec.co.uk/index.php?nav=shop&pID=12348&langID=2 Enghraifft o CD-ROM Cymraeg ar werth yn 2009 ar wefan CBAC.]