Trwyn y llo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Adran ar A. majus fel planhigyn gardd
Corgimwch (sgwrs | cyfraniadau)
Adran am A. majus fel organeb model
Llinell 19:
 
==Disgrifiad==
Planhigyn llysieuaidd lluosflwydd ydi ''A. majus''. Gall dyfu hyd at 0.5-1 m o daldra. Mae'r dail yn waywffurf, 1-7 cm o hyd, ac fe'u trefnir yn droellog ar goes y planhigyn. Mae'r blodau'n tyfu ar ysbigau tal, ac mae pob blodyn tua 3.5-4.5 cm o hyd gyda chymesuredd dwyochrol. Mae pum petal y blodau wedi asio i'w gilydd yn rhannol, gan ffurfio tiwb. Mae pen uchaf pob tiwb wedi ei gau gan ddwy 'wefus', ac mae'n rhaid i beillwyr y blodau (gwenyn gwyllt, neu ''bumblebees'') wthio'r gwefusau hyn oddi wrth ei gilydd er mwyn cyrraedd y neithdar ar waelod y tiwb. Wedi i flodyn gael ei beillio, bydd ffrwyth yn datblygu o'r ofari ar waelod y tiwb. Cibyn (capsule) yw'r ffrwyth hwn, ac wedi iddo sychu, bydd 50-100 o hadau duon bychain yn cael eu gwasgaru drwy ddisgyn i'r llawr. Ar blanhigion gwyllt, mae gan y blodau betalau lliw majenta tywyll, gyda smotyn melyn ar y wefus isaf, ond ceir ystod eang o liwiau mewn mathau gardd.<ref name=BlameyGrey>{{dyf llyfr | awdur = Blamey, M.; Grey-Wilson, C. | blwyddyn = 1989 | teitl = The Illustrated Flora of Britain and Northern Europe | isbn = 0-340-40170-2 | cyhoeddwr = Hodder and Stoughton | iaith = Saesneg}}</ref>
 
==Fel planhigyn gardd==
[[Delwedd:Löwenmaul IMG 6052.JPG|bawd|Planhigyn ''Antirrhinum majus'' mewn gardd.]]
 
Gall ''A. majus'' oroesi tymhereddau isel yn ogystal â rhai uchel, ond mae'n tyfu orau mewn amgylchedd â thymheredd rhwng 17 a 25°C. Mae'n tyfu'n dda o hadau, gan flodeuo o fewn tri i bedwar mis, neu o doriadau.<ref name=Hudson>{{dyf cylch|awdur = Hudson, Andrew; Critchley, Joanna; ac Erasmus, Yvette|dyddiad=2008-10-01|blwyddyn=2008|teitl=The genus ''Antirrhinum'' (snapdragon): a flowering plant model for evolution and development|url=http://cshprotocols.cshlp.org/content/2008/10/pdb.emo100|journalsiwrnal=Cold Spring Harbor Protocols|iaith=Saesneg|cyfrol=2008|rhifyn=10|tud=pdb.emo100|doi=10.1101/pdb.emo100|issn=1940-3402|pmid=21356683}}</ref>
 
Er ei fod yn blanhigyn lluosflwydd mewn natur, fe'i ddefnyddir fel planhigyn blynyddol neu ddwyflynyddol mewn gerddi yn aml, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n oerach na'i gynefin naturiol. Mae llawer o fathau gardd ar gael, gan gynnwys rhai â blodau oren, pinc, melyn, coch a gwyn. Ceir hefyd blanhigion â blodau 'pelorig' - gyda blodau â chymesuredd cylch yn hytrach na chymesuredd dwyochrog.<ref name=BlameyGrey/><ref name="rhs">{{dyf llyfr|golygydd=Huxley, A|blwyddyn=1992|teitl=New RHS Dictionary of Gardening|iaith=Saesneg|isbn= 0-333-47494-5}}</ref> Mae rhai mathau gardd, megis ‘''Floral Showers Deep Bronze''’<ref>{{dyf gwe | url= https://www.rhs.org.uk/Plants/233162/i-Antirrhinum-majus-i-Floral-Showers-Deep-Bronze-(Floral-Showers-Series)/Details
Llinell 33:
 
Gall y planhigyn hefyd ddianc o erddi, a cheir poplogaethau wedi cynefino ymhell i'r gogledd o ystod naturiol y rhywogaeth <ref name=GRIN>{{dyf gwe|url=https://npgsweb.ars-grin.gov/gringlobal/taxonomydetail.aspx?id=3665|teitl=''Antirrhinum majus''|gwaith=Germplasm Resources Information Network (GRIN)|cyhoeddwr=Agricultural Research Service (ARS), Adran Amgylchedd Llywodraeth yr Unol Daleithiau (USDA)|dyddiadcyrchiad=27 Rhagfyr 2017|iaith=Saesneg}}</ref>
 
==Fel planhigyn ymchwil==
Mae ''A. majus'' wedi ei ddefnyddio fel organeb model mewn labordai gwyddonol ers dros ganrif er mwyn astudio [[bioleg datblygiad|datblygiad]], [[biocemeg]] ac [[esblygiad]].<ref name="oyama">{{dyf cylch|awdur= Oyama, RK; a Baum, D|blwyddyn=2004|teitl=Phylogenetic relationships of North American Antirrhinum (Veronicaceae)|siwrnal=American Journal of Botany|iaith-Saesneg|cyfrol=91|rhifyn=6|tud=918–25|doi=10.3732/ajb.91.6.918}}</ref> Defnyddwyd ''A. majus'' (ar y cyd ag [[berwr y fagwyr|''Arabidopsis thaliana'']]) i astudio sut mae organnau blodau yn datblygu mewn planhigion, a dangoswyd fod tri teulu o enynnau, A, B ac C, yn gyfrifol am roi hunaniaeth benodol i'r bedair organ.<ref name=CoenMeyerowitz>{{dyf cylch|awdur=Coen, Enrico S; a Meyerowitz, Elliot M|teitl=The war of the whorls: genetic interactions controlling flower development|siwrnal=Nature|cyfrol=353|tud=31-37|blwyddyn=1991|dyddiad=5 Medi 1991|doi:10.1038/353031a0|iaith=Saesneg}}</ref> Roedd ''A. majus'' yn bwysig ar gyfer deall sut mae planhigion yn cynhyrchu cyfansoddion anthocyanin - y rhai sy'n rhoi lliwiau coch, pinc a phiws i flodau a dail.<ref name=Martin>{{dyf cylch|awdur=Martin, Cathie; Prescott, Andy; Mackay, Steve; Bartlett, Jeremy; a Vrijlandt, Eli|teitl=Control of anthocyanin biosynthesis in flowers of Antirrhinum majus|siwrnal=The Plant Journal|cyfrol=1|rhifyn=1|tud=963-966|blwyddyn=1991|doi:10.1111/j.1365-313X.1991.00037.x|iaith=Saesneg}}</ref> Mae poblogaethau gwyllt o ''A. majus'' a'i is-rywogaethau hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer astudio sut mae lliwiau blodau wedi esblygu, ac er mwyn deall sut mae'r amgylchedd yn effeithio ar boblogaethau.<ref name=Whibley>{{dyf cylch|awdur=Whibley, Annabel C; Langlade, Nicolas B; Andalo, Chistophe; Hanna, Andrew I; Bangham, Andrew; Thébaud, Christophe; a Coen, Enrico S|teitl=Evolutionary paths underlying flower colour variation in Antirrhinum|siwrnal=Science|cyfrol=313|rhifyn=5789|tud=963-966|blwyddyn=2006|dyddiad=18 Awst 2006|doi:10.1126/science.1129161|iaith=Saesneg}}</ref>
 
==Gweler hefyd==
*[http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/?q=node/6 Geiriadur rhywogaethau] gwefangwfefan [[Llên Natur]]
*[http://www.nhm.ac.uk/our-science/data/uk-species/species/antirrhinum%20majus.html?lang=cy Antirrhinum majus L. trwyn y llo] ar wefan yr Amgueddfa Hanes Naturiol.