Gellilydan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref bychan yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] rhwng [[Trawsfynydd]] a [[Blaenau Ffestiniog]] yw '''Gellilydan'''. Mae'r pentref ar ochr cefnffordd de-gogledd yr [[A487]] yn agos at gyffordd y ffordd honno gyda'r [[A470]] ar ben allt sy'n cael ei hadnabod fel ''Dreif yr Oakley'' sy'n codi o bentref cyfagos [[Maentwrog]]. Dyma'r pentref agosaf at [[atomfa Trawsfynydd]] sydd lai na milltir i ffwrdd o ganol y pentref.
 
O safbwynt gweinyddol, mae'r pentref yn rhan o ward Trawsfynydd ac yn cael ei gynrychioli ar [[Gwynedd|Gyngor Gwynedd]] gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol).