Afon Gyrrach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Afon Gyrrach.JPG|300px|bawd|'''Afon Gyrrach''' yn llifo heibio i Waun Gyrrach, ar yr ucheldir uwchben [[Penmaenmawr]]]]
 
Mae '''Afon Gyrrach''' yn afon fach yn [[Conwy (sir)|Sir Conwy]] sy'n rhedeg o lethrau [[Tal-y-Fan]] i'r môr ger twnel [[Penmaen-bach]].
 
Er mai dim ond rhyw 5 milltir yw ei hyd mae cwrs yr afon yn amrywiol iawn. Mae ei tharddle tua 1700 troedfedd i fyny ar lethrau gogleddol mynydd [[Tal-y-Fan]], y cyntaf o gopaon [[y Carneddau]] o gyfeiriad y dwyrain. Anodd dweud pa un o'r ffynonellau bychain ger Bwlch Defaid yw ei gwir darddle.
 
Mae hi'n rhedeg ar gwrs tua'r gogledd-dwyrainddwyrain o Fwlch Defaid, trwy gorsdir gwlyb iawn lle gwelir [[merlod mynydd Cymreig|merlod mynydd]] haf a gaeaf, ac yna heibio i hen gronfa dŵr a adeiladwyd gan Cyngor [[Penmaenmawr]] tua dechrau'r [[20g]]. Mae hi'n pasio dan bont fach i gerddwyr ger Waun Gyrrach ar ôl i nifer o ffrydiau llai ymuno â hi ac yna'n disgyn yn gyflym trwy Nant Ddaear y Llwynog (neu'r ''Fairy Glen'' yn Saesneg) goediog i [[Capelulo|Gapelulo]] wrth droed [[Bwlch Sychnant]].
 
Ar ôl rhedeg dan bont ar y lôn mae hi'n mynd i lawr trwy'r Glyn, yn troi i'r gogledd i redeg heibio i lethrau isaf [[Yr Alltwen]], ac yn pasio trwy ochr ddwyreiniol pentref Dwygyfylchi. O'r diwedd mae hi'n llifo dan yr [[A55]] a'r rheilffordd i ddod allan ar draeth o gerrig mân ger Penmaen-bach ac ymuno â [[Bae Conwy]] a'r [[Môr Iwerydd]] ar ddiwedd ei thaith.