Simone Weil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:SimoneWeil.jpg|bawd|200px|Simone Weil]]
 
[[Athroniaeth|Athronydd]] ac awdur o [[Ffrainc]] oedd '''Simone Weil''' ([[3 Chwefror]], [[1909]] - [[24 Awst]], [[1943]]). Byddai weithiau'n yn ysgrofennuysgrifennu dan yr enw "Emile Novis".
 
Ganed hi ym [[Paris|Mharis]] yn 1909, i deulu [[agnostig]] o dras [[Iddew|Iddewig]]. Roedd yn yddysghyddysg yn yr iaith [[Groeg (iaith)|Roeg]] erbyn ei bod yn 12 oed. Yn 1928 daeth yn gyntaf yn yr arholiadau am fynediad i'r [[École Normale Supérieure]], lle astudiodd athroniaeth. Bu'n dysgu mewn ysgol i ferched yn [[Le Puy-en-Velay|Le Puy]] am gyfnod. Daeth yn amlwg mewn ymyrchu ar ran y gweithwyr. Yn [[1934]] cymerodd flwyddyn i ffwrdd o'i swydd fel athrawes i weithio mewn dwy ffatri, i gysylltu a'r gweithiwr cyffredin yn well. Yn [[1936]] ymladdodd dros y Weriniaeth yn [[Rhyfel Cartref Sbaen]]. Tra yn [[Assisi]] yn [[yr Eidal]] yng ngwanwyn [[1937]], cafodd brofiad cyfriniol yn eglwys [[Ffransis o Assisi|Sant Ffransis]]. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], bu'n byw yn [[Marseille]] am gyfnod, yna yn [[1942]] teithiodd i'r [[Unol Daleithiau]] ac yna i [[Lloegr|Loegr]]. Er bod ei hiechyd yn diwywio, roedd yn mynnu peidio bwyta dim mwy nag yr oedd pobl y rhan o Ffrainc oedd dan reolaeth [[yr Almaen]] yn ei fwyta, a chyfrannodd hyn at ei marwolaeth mewn sanatoriwm yn Ashford, [[Swydd Caint]] yn 1943.
 
Cafodd ei hathroniaeth ddylanwad mawr ar bobl mewn nifer o wledydd; yng Nghymru roedd yn un o'r prif ddylanwadau ar yr athronydd [[J. R. Jones]].