Hu Gadarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion iaith
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Hu Gadarn (Y Celt).JPG|200px|bawd|"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen ''Y Celt'', cylchgrawn o'r 1880au). Mae'r teitl yn llythrennau [[Coelbren y Beirdd]], un arall o luniadau Iolo Morgannwg.|link=https://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Hu_Gadarn_(Y_Celt).JPG]][[Arwr]] Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg [[Iolo Morgannwg]] yn bennaf, yw '''Hu Gadarn'''.<ref>A. C. Rejhon, 'Hu Gadarn: Folkore and Fabrication', yn ''Celtic Folkore and Christianity'', gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt. 201-12.</ref>
 
Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]], sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y [[Myvyrian Archaiology of Wales]]), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar ddiwylliant y [[Cymry]], yn fath o hynefydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i [[Ynys Prydain]] o Ddeffrobani (enw canoloesol ar [[Sri LankaLanca]] a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft [[Cerdd Dafod]] er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.
 
Ymddengys fod Iolo wedi benthyg cymeriad Hu Gadarn o'r gerdd ganoloesol enwog "Cywydd y Llafurwr", gan [[Iolo Goch]] (tua 1320–1398). Yn y [[cywydd]] hwnnw mae Iolo Goch yn adrodd sut y bu rhaid i Hu Gadarn, oedd yn [[Ymerawdr|ymerawdwr]] [[Caergystennin]] (''Constinobl''), lywio [[aradr]] a bwydo ei hun o ffrwyth ei waith yn unig.