Kenneth Newman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
== Bywyd cynnar ==
Ganwyd yn ardal [[Hackney]] yn nwyrain [[Llundain]] yn fab i adeiladwr o'r enw John a'i wraig Florence. Magwyd Kenneth ym mhentref North Bersted yng [[Gorllewin Sussex|Ngorllewin Sussex]]. Ymunodd â'r [[Awyrlu Brenhinol]] yn 16 oed a gwasanaethodd yn [[Sri LankaLacka|Seilón]], [[yr India]], [[Byrma]], a [[Singapôr]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]]. Dychwelodd i Loegr ym 1946, ac ymunodd â heddlu'r Mandad Prydeinig ym [[Palesteina|Mhalesteina]] i ddianc o hinsawdd oer ei gartref. Daeth y Mandad Prydeinig i ben ym 1948, a dychwelodd Newman i Loegr i ymuno â Heddlu Llundain fel cwnstabl. Y flwyddyn honno, priododd Eileen Freeman, ac yn hwyrach cawsant un mab ac un ferch. Cafodd ei ddyrchafu drwy rengoedd y llu a'i benodi'n bennaeth ar blismona cymunedol. Yn ei amser rhydd fe astudiodd ac enillodd radd yn y gyfraith o [[Prifysgol Llundain|Brifysgol Llundain]] ym 1971.
 
== Cyfnod yng Ngogledd Iwerddon ==