William Thomas (Islwyn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llun o Comin: Category:National Library of Wales Portrait Archive
y ty lle ganed Islwyn - o Comin
Llinell 18:
==Bywgraffiad==
Roedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Yr Ynys Ddu, yn [[Dyffryn Sirhywi|Nyffryn Sirhywi]], hanner ffordd rhwng [[Tredegar]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]], wrth droed [[Mynydd Islwyn]], ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes.
[[Delwedd:Portrait of 'Y ty lle ganwyd Islwyn' (4672082) (cropped).jpg|bawd|chwith|Y tŷ lle ganed Islwyn.]]
 
Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg yn ysgolion Tredegar, Casnewydd, [[Y Bont Faen]] ac [[Abertawe]]. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ieuanc o'r enw Anne Bowen. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Anne ar 24 Hydref [[1853]] yn ddisymwth iawn, yn ugain oed; mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith Islwyn.