Adpar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro cyswllt
Slorp777 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
}}
 
Hen fwrdeistref ar lan ogleddol [[afon Teifi]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] sydd bellach yn faesdref i [[Castell Newydd Emlyn|Gastellnewydd Emlyn]] yw '''Adpar'''({{Sain|Adpar.ogg|ynganiad}}) (ceir y ffurf '''Atpar''' weithiau hefyd). Mae'n rhan o blwyf a chymuned [[Llandyfriog]], Ceredigion, er bod Castellnewydd Emlyn ei hun, dros yr afon, yn [[Sir Gaerfyrddin]].
 
Hen enw Adpar oedd Trefhedyn ac roedd yn un o hen fwrdeistrefi [[Sir Aberteifi]]. Mae gan Adpar ei le yn [[hanes Cymru]] a [[llenyddiaeth Gymraeg]] fel cartref i'r argraffwasg barhaol gyntaf yng Nghymru a sefydlwyd yno yn [[1718]] gan [[Isaac Carter]] (m. 1741). Cyhoeddodd Carter ddau bamffledyn, 'Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco' gan Alban Thomas a 'Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau' gan awdur anhysbys yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref [[Caerfyrddin]].