Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sr:Arctic Monkeys; cosmetic changes
Llinell 1:
[[Delwedd:arcticmonkeys.jpg|bawd|200px|Yr Arctic Monkeys]]
 
Band roc o Sheffield ydy'r '''Arctic Monkeys'''. Yr aelodau yw [[Alex Turner]] (Prif Ganwr a Gitar), [[Jamie Cook]] (Prif Gitar), [[Nick O'Malley]] (Gitar Bâs - aelod newydd, gan fod gitarydd bâs gwreiddiol y band, Andy Nicholson, wedi penderfynu gadael), a [[Matt Helder]] (Drymiau). Cafodd ''[[MySpace]]'' ddylanwad enfawr ar eu llwyddiant cynnar, ac aeth eu sengl cyntaf, 'I Bet That You Look Good On The Dancefloor' i rif 1 yn siartiau Prydain. Daeth llwyddiant pellach yn fuan wedyn, ar ôl i'w halbwm cyntaf, 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not', gyrraedd rhif 1 yn y Deyrnas Unedig, lle torrodd y record am y nifer a werthwyd yn yr wythnos gyntaf o werthiant. Enillodd yr albwm wobr ''Mercury Music'' yn 2006, fel yr albwm gorau'r flwyddyn. Hefyd enillodd yr albwm yn y categori 'Albwm Gorau' a'r band yn ennill y teitl 'Band Prydeinig Gorau' yn seremoni gwobrwyo'r ''BRITS'' yn 2007. Yn 2007 hefyd, rhyddhaodd y band eu hail albwm, 'Favourite Worst Nightmare', a gafodd ei enwebu am wobr ''Mercury Music'' yn 2007. Perfformiodd y band fel un o'r prif fandiau yng Ngwyl byd-enwog ''[[Glastonbury]]'' ym mis Mehefin 2007. Enillodd yr albwm y wobr am yr albwm gorau, ynghyd â'r wobr am y band gorau yng Ngwobrau'r ''BRITs'' yn 2008 am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyfeirir at y band yn aml fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y funud ac mae gwerthiant eu recordiau a'r gwobrwyon maent wedi ennill yn adlewyrchiad teg o hyn.
 
 
Llinell 20:
I raddau helaeth mae'r band wedi cael eu beirniadu yn sgil yr holl sylw a wnaeth y Wasg ohonynt wrth i'w poblogrwydd gynyddu. Cawsant eu disgrifio gan y beirniaid fel un band ymysg rhestr faith o fandiau a gafodd eu heipio'n ormodol gan [[NME]]. Yn ogystal â hyn, wrth iddynt ryddhau'r EP [['Who The Fuck Are The Arctic Monkeys?']] dim ond tri mis ar ôl llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, gwelodd rhai hyn fel petaent yn ceisio cymryd cymaint o arian a phosib wrth eu cefnogwyr. Atebodd y band y feirniadaeth hyn trwy ddatgan eu bod yn rhyddhau cerddoriaeth newydd yn rheolaidd, nid i wneud arian ond yn hytrach er mwyn osgoi'r "diflastod" o dreulio tair blynedd yn teithio o amgylch y wlad gydag un albwm.
 
Roedd clawr yr albwm [[Whatever People Say I Am, That's What I'm Not]], a ddangosai Chris McClure, ffrind i aelodau'r band yn ysmygu sigaret hefyd wedi cael ei feirniadu gan y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban am atgyfnerthu'r syniad fod ysmygu'n dderbyniol. Dangosodd glawr y CD ei hun lun o flwch-llwch yn llawn sigarennau. Gwadodd rheolwr cynnyrch y band yr honiad gan ddadlau'r gwrthwyneb. Dywedodd "You can see from the image smoking is not doing him the world of good".
 
Roedd y band hefyd yn rhan o seremoni di-drefn [[Gwobrau'r BRITs]] yn 2008, seremoni a feirniadwyd lawer; tra'n derbyn eu gwobr Brit am y Grŵp Prydeinig Gorau yn 2008, gwnaeth y band joc eu bod wedi dod o'r Ysgol y Brits yn [[Croydon]]. Mae disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn derbyn y cyfle i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn ystod y seremoni; mae Gwobrau'r Brits yn cefnogi'r ysgol yn helaeth. Daw'r band o [[Sheffield]] ac felly nid oedd wedi mynychu'r ysgol. Yn hytrach, roeddent yn gwawdio enillwyr blaenorol y noson sef [[Adele]] a [[Kate Nash]] (cyn-ddisgyblion o'r ysgol) , a ddiolchodd y dorf a'u hysgol yn ystod eu hareithiau wrth dderbyn eu gwobrau. Cafodd araith yr Arctic Monkeys ei fyrhau a'i olygu gan [[ITV]].
Llinell 26:
== Gwleidyddiaeth ==
 
Mae poblogrwydd yr Arctic Monkeys yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wedi arwain at wleidyddion a newyddiadurwyr yn cyfeirio at y band yn eu hareithiau a'u hysgrifennu. Ym mis Mai 2006, dywedodd [[Cynghellor]] y Trysorlys ar y pryd, [[Gordon Brown]], mewn cyfwelid gyda chylchgrawn New Woman ei fod yn gwrando arnynt yn ddyddiol gan honni ei bod yn " really wake you up in the morning", er mewn cyfweliad yn hwyrach ni fedrai enwi'r un o'u caneuon. Yn ddiweddarach, adroddwyd fod Brown wedi cael ei gam-ddyfynnu. Mewn cyfweliadau ers hynny, mae Brown wedi cadarnhau nad yw'n eu hoffi mewn gwirionedd gan ddweud mai'r unig beth a ddywedodd yw y byddai'r band yn llwyddo i ddeffro person yn y bore. Parhaodd i gyfeirio at hyn yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur pan yn sôn am y perygl o gynhesu byd-eang, gan ddweud ei fod yn "more interested in the future of the Arctic Circle than the future of the Arctic Monkeys". Cyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, Menzies Campbell, at y band hefyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni'n anghywir eu bod wedi gwerthu mwy o recordiau na [[The Beatles]], sylwad a arweiniodd at lawer o wawdio gan y cyfryngau. Mynegodd helders ac O'Malley eu amheuon am y cyngherddau Live Earth yn 2007 hefyd.
 
 
Llinell 69:
[[simple:Arctic Monkeys]]
[[sl:Arctic Monkeys]]
[[sr:Arctic Monkeys]]
[[sv:Arctic Monkeys]]
[[th:อาร์คติก มังกี้ส์]]