Valerie Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

nofiwr o Gymru
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SUSANREES (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Valerie Davies"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 12:22, 27 Mehefin 2018

Roedd Elizabeth Valerie Davies (29 Mehefin 1912 - Awst 2001), a adwaenwyd yn ddiweddarach gan ei enw priod, Valerie Latham, yn nofwraig cystadleuol o Gymru a gynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Haf 1932.

Fe'i ganed yng Nghaerdydd a bu farw yng Nghasnewydd.

Yng Ngemau Olympaidd 1932, enillodd fedalau efydd yn y gystadleuaeth nofio ar y cefn 100 m ac yn y gystadleuaeth cyfnewid rhydd 4 × 100 m ac roedd yn drydydd yn y rownd gyntaf o'r nofio'n rhydd 100m ond nid aeth ymhellach.

Bu hefyd yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau Ymerodraeth Brydeinig 1930 gan ennill tair medal. Dyfarnwyd dwy fedal arian iddi yn y gystadleuaeth nofio 100 llath ar y cefn a'r 400 llath rhydd a medal efydd yn y  ras 100 llath rhydd.

Pedair blynedd yn ddiweddarach enillodd y fedal efydd yn y gystadleuaeth nofio100 llath ar y cefn.

Gweler hefyd

Rhestr o enillwyr medalau Olympaidd mewn nofio (menywod)

Dolenni allanol