Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ethnogenesis
Tagiau: Golygiad cod 2017
B →‎Dysg: dol
Llinell 113:
=== Dysg ===
[[Delwedd:?Professor Thomas Powel (1845-1922) NLW3364243.jpg|bawd|Yr ysgolhaig Celtaidd [[Thomas Powel]] yn ei wisg academaidd (tua 1875).]]
Yn nechrau’r 19g roedd nifer o gwyno wedi bod ynghylch cyflwr [[addysg yng Nghymru]], gan ysgogi llywodraeth Llundain i archwilio’r ysgolion yn y wlad. Cododd storm o brotest yn 1847, blwyddyn [[Brad y Llyfrau Gleision]], pan gyhoeddwyd yr adroddiad sy’n rhoi’r bai am amwybodaeth ac anfoesoldeb honedig y Cymry ar yr iaith Gymraeg ac Anghydffurfiaeth. Er i nifer o Gymry wrthod casgliadau ac argymhellion yr adroddiad, bu symudiad cryf i seisnigo'r ysgolion yng Nghymru. Yn 1891 sefydlwyd addysg orfodol i bob plentyn rhwng pump a thair ar ddeg oed. Addysgwyd y cwricwlwm yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Saesneg, a chafodd plant eu cosbi am siarad Cymraeg. Mae'r ''[[Welsh Not]]'', a ddefnyddiwyd mewn ambell ysgol, yn symbol o ddiraddio’r Gymraeg yn yr oes Fictoraidd. Dim ond yn yr ysgolion Sul yr oedd plant Cymraeg yn derbyn addysg yn eu hiaith eu hunain. Yn yr 20g ymgyrchodd Syr [[Owen Morgan Edwards]] ac eraill dros [[addysg Gymraeg]] i’r Cymry ifanc. Sefydlodd ei fab, Ifan ab Owen Edwards, yr ysgol Gymraeg gyntaf yn 1939. Erbyn heddiw mae'r Gymraeg yn bwnc orfodol i bob disgybl yng Nghymru.
 
Er i Glyn Dŵr gynnig dau ''studia generalia'' i Gymru, un yn y gogledd ac un yn y de, ar sail [[Prifysgol Caergrawnt|Caergrawnt]] a [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]], ni chafodd yr un brifysgol ei sefydlu yng Nghymru tan [[Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] yn 1872. Nes y flwyddyn honno, bu’n rhaid i Gymry astudio ym mhrifysgolion Lloegr a gwledydd eraill Ewrop. Yn hanesyddol, bu cysylltiad cryf rhwng myfyrwyr Cymreig a [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Choleg yr Iesu, Rhydychen]]. [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]] yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen, a [[Cymdeithas y Mabinogi|Chymdeithas y Mabinogi]] yw cymdeithas Gymreig Prifysgol Caergrawnt. Yn 1893 unodd coleg Aberystwyth â cholegau Caerdydd a Bangor i ffurfio [[Prifysgol Cymru]], a chanddi siarter ei hunan a'r hawl i roi graddau. Erbyn heddiw mae sawl coleg a phrifysgol annibynnol yng Nghymru, a phob un yn cynnig addysg ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar bynciau sydd yn ymwneud ag hanes a diwylliant Cymru. Wrth gwrs, nid yw aelodaeth y byd academaidd yng Nghymru yn llwyr Gymreig gan fod nifer fawr o fyfyrwyr ac ysgolheigion o’r tu allan i Gymru yn astudio ac yn gweithio ynddo.
 
Nid oes traddodiad o "athroniaeth Gymreig" gydlynol, megis yr hyn sydd gan yr Albanwyr a’r Saeson, a bu'n rhaid i'r ychydig o athronwyr o Gymry i gyflwyno'u gwaith yng nghyd-destun y traddodiad Prydeinig ac Ewropeaidd ehangach. Yn ddiweddar, mae Huw Williams wedi ceisio llunio hanes deallusol sydd yn cysylltu'r amryw feddylwyr o Gymry a sut yr ydynt wedi ymdrin ag athroniaethau crefyddol, gwleidyddol, ac economaidd. Yn eu plith mae’r diwinydd [[Pelagius]], y Cymro mwyaf ddylanwadol ar athroniaeth y tu hwnt i Gymru [[Richard Price]], y sosialwyr [[Robert Owen]], [[Aneurin Bevan]] a [[Raymond Williams]], yr heddychwyr [[Henry Richard]] a [[David Davies, Barwn 1af Davies|David Davies]], a'r cenedlaetholwyr [[Michael D. Jones]], [[J. R. Jones]] a'r [[Arglwyddes Llanofer]].<ref>Huw Lloyd Williams, ''[[Credoau'r Cymry]]'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2016).</ref>