Haiku: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: lb:Haiku
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gan:俳句, lv:Haikas; cosmetic changes
Llinell 1:
Mae'r '''haiku''' yn ffurf fydryddol [[Siapanaeg]] tebyg i'r [[englyn]] Cymraeg a'r [[epigram]] Groeg. Fel yr englyn mae'r ''haiku'' yn gerdd fer iawn. Y ffurf safonol yw tair llinell o 5, 7 a 5 sillaf. Mae gan ''haiku'' statws arbennig yn hanes [[llenyddiaeth Siapan]].
 
=== Hanes ===
Mae gwreiddiau'r ''haiku'' i'w canfod yn yr [[haikai-renga]], cerddi o hyd amrywiol a oedd yn boblogaidd yn [[Siapan]] yn y cyfnod ''Muromachi'' (1338-1570). Gelwid pennill agoriadol cerddi ''haikai-renga'' yn ''haikai''. Yn raddol fe ddatblygodd yn uned ar wahân a chafodd ei gydnabod fel ffurf fydryddol ynddo'i hun.
Yn yr 17eg ganrif tyfodd i fod yn ffurf lenyddol hyblyg a soffistigedig yn nwylo Matsuo [[Bashō]] a'i gyfoeswyr. Rhoddwyd yr enw ''haiku'' ar y cerddi hyn gan y bardd Shiki Masoaka yn y cyfnod [[Meiji]] (1868-1912).
Erys yr ''haiku'' yn boblogaidd iawn yn Siapan ac amcangyfrir bod o gwmpas 10 miliwn o bobl yn cyfansoddi cerddi ''haiku'' heddiw gyda nifer ohonynt yn aelodau o gymdeithasau llenyddol ar gyfer y grefft (''kukai'') lle mae pobl yn cwrdd i gyfansoddi a darllen ''haiku''.
 
=== Hanfodion ''haiku'' ===
Mae'r gerdd enwog am lyffant yn neidio i mewn i bwll gan Bashō yn enghraifft ragorol o'r ''haiku'':
 
Llinell 15:
Gwelir yn y gerdd tair prif hanfod ''haiku''. Mae ei ffurf (''teikei'') yn rheolaidd gyda 17 sillaf yn y patrwm 5-7-5. Caniateir amrywiadau ar y ''teikei'' arferol, ac mae rhai o'r cerddi ''haiku'' gorau yn fyrrach o sillaf neu ddwy neu'n rhedeg i hyd at 20 sillaf. Yn ogystal mae'r gerdd yn cynnwys "gair tymhorol" (''kigo''), sef ''kawazu'' (llyffant), sy'n dynodi'r gwanwyn. Yn olaf ceir ynddi y geiryn ''kireji'', yr ''ya'' ar ddiwedd y llinell gyntaf, sydd yn dwyn y pwyslais er nad oes iddo ystyr ynddo ei hun. Y ''kireji'' mwyaf cyffredin yw ''ya'', ''kana'', ''keri'', ''ran'', ''tsu'', ''nu'', ''zu'', ''ikani'', ''ka'' a'r terfyniad ansoddeiriol ''shi''.
 
=== Mewn ieithoedd eraill ===
Mae'r gair ''haiku'' yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio cerddi o'r un ffurf â Haiku Siapaneg, sef tair llinell o 5, 7 a 5 sillaf, ond mewn ieithoedd eraill.
{{Cyswllt erthygl ddethol|bar}}
 
 
[[Categori:Llên Japan]]
Llinell 23:
[[Categori:Diwylliant Japan]]
[[Categori:Termau llenyddol]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|bar}}
 
[[ar:هايكو]]
Llinell 42 ⟶ 40:
[[fi:Haiku]]
[[fr:Haïku]]
[[gan:俳句]]
[[gl:Haiku]]
[[he:האיקו]]
Llinell 56 ⟶ 55:
[[lb:Haiku]]
[[lt:Haiku]]
[[lv:Haikas]]
[[mk:Хаику]]
[[ms:Haiku]]