Traeth Lafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen
dolen
Llinell 4:
Ardal o fanciau tywod a mwd rhynglanwol ydyw, ar ben dwyreiniol [[Afon Menai]]. Ei arwynebedd pan fo'r llanw allan yw 2642 hectar. Pan fo'r llanw allan mae nifer o ffrydiau bychain dŵr croyw yn rhedeg drosto i'r môr. Mae'n cynnwys banc tywod anferth ar ei ymyl ogledd-ddwyreiniol a elwir Banc y Dytshmon (''Dutchman's Bank''). Yn ôl traddodiad roedd y traeth yn dir sych ar un adeg ac yn rhan o deyrnas chwedlonol [[Tyno Helig]] a foddiwyd un noson ystormus.
 
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)]] i'w orffwysfa ym mynachlog [[Brodordy Llan-faes|mynachlog Llan-faes]] yn [[1237]]. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar y 6ed o Dachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.
 
Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arbennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig [[Pioden y Môr|piod y môr]] (''Haematopus ostralegus''). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]] i gysgodi. Mae hefyd niferodd o bwysigrwydd rhyng-genedlaethol o'r [[Pibydd Coesgoch]] (''Tringa totanus'') yn gaeafu yma. Rhwng Bangor a Llanfairfechan mae nifer o warchodfeydd sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy, yn bennaf ar gyfer adar: Aberogwen, Morfa Aber, Morfa Madryn a Glan-y-môr Elias.