Hywel ab Ednyfed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Esgob Llanelwy o 1240 i 1247 oedd '''Hywel ab Ednyfed''' (bu farw 1247), y cyfeirir ato hefyd fel '''Hywel II'''.<ref>David Stephenson, ''The Governan…'
 
B teipos
Llinell 1:
[[Esgob Llanelwy]] o 1240 i 1247 oedd '''Hywel ab Ednyfed''' (bu farw [[1247]]), y cyfeirir ato hefyd fel '''Hywel II'''.<ref>David Stephenson, ''The Governance of Gwynedd'' (Caerdydd, 1984), tud. 169.</ref> Mae'n bosibl ei fod yn un o feibion [[Ednyfed Fychan]]
 
Cymharol chydigychydig a wyddom am Hywel. Mae'n bosibl ei fod yn un o feibion [[Ednyfed Fychan]], er nad oes sicrwydd am hynny. Cyfeirir ato sawl gwaith yn nogfennau'r cyfnod yng nghwmni'r Tywysog [[Dafydd ap Llywelyn]], mab Llywelyn Fawr.<ref>''The Governance of Gwynedd'', tud. 35.</ref>
 
Cyfeirir at Hywel ym [[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] fel yr esgob a gyseggroddgysegrodd [[Brodordy Llan-faes|Frodordy Llan-faes]], [[Môn]]. Cododd y Tywysog [[Llywelyn ap Iorwerth]] ([[Llywelyn Fawr]]) fynachlog yn [[Llan-faes]] i'r [[Urdd Sant Ffransis|Brodyr Troednoeth]] er anrhydedd i'w wraig y Dywysoges [[Siwan]], merch y brenin [[John o Loegr]] ar ôl iddi farw yn [[1237]]. Dyma'r cofnod ym ''Mrut y Tywysogion'':
 
:Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm Siwan, ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn [[Garth Celyn|llys Aber]]; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, esgob Llanelwy. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.<ref>Thomas Jones (gol.), ''Brut y Tywysogyon. Peniarth MS. 20'' (Caerdydd, 1941). Orgraff ddiweddar.</ref>