Prydain Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: ia:Grande Britannia
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tt:Бөекбритания (утрау); cosmetic changes
Llinell 3:
'''Prydain Fawr''' yw un o'r enwau ar ynys sy'n gorwedd oddi ar arfordir gogledd gorllewinol [[Ewrop]]. Mae tair cenedl o fewn yr ynys, sef [[Cymru]], [[Yr Alban]] a [[Lloegr]]. (Mae rhai pobl yn ystyried [[Cernyw]] yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol.) Yn wleidyddol, ystyrir bod yr ynysoedd llai sydd yn rhannau o Gymru, Lloegr, neu'r Alban, fel Ynys Enlli er enghraifft, yn rhannau o Brydain Fawr hefyd. Llywodraethir yr ynys gan [[senedd]] yn [[Llundain]] fel rhan o wladwriaeth [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon]], er bod mesur o [[hunanlywodraeth]] gan [[Cymru|Gymru]] a'r [[Yr Alban|Alban]] erbyn hyn. Sylwer nad ydyw talaith [[Gogledd Iwerddon]] yn rhan o Brydain Fawr.
 
== Hanes yr enw ==
Mae'r enw ei hun yn bur ddiweddar. [[Ynys Prydain]] neu Brydain oedd yr enw gwreiddiol ac fe'i gelwid felly am ei bod yn gartref i'r [[Brythoniaid]] (er bod lle i ddadlau fod yr enw [[Brythoneg]] ''Prydein'' a'r enw [[Goideleg]] cyfystyr ''Cruithenn'' yn cyfeirio at y [[Pictiaid]] yn wreiddiol). [[Britannia]] oedd enw'r [[Rhufeiniaid]] ar yr ynys, yn seiliedig ar y gair Brythoneg.
 
Llinell 12:
Diddorol nodi hefyd mai "Prydain Fach" yw ystyr yr enw [[Gwyddeleg]] am Gymru, sef ''An Bhreatain Bheag'' (y tir llai oedd dal ym meddiant y Brythoniaid ar ôl i'r Saeson gipio'r hyn a elwir yn Lloegr heddiw).
 
== Gwledydd Prydain ==
:''Gweler hefyd: [[Prydeindod]]''
Yn y Chwedegau bathwyd y term hwn fel cywiriad gwleidyddol ac fe'i defnyddir ar lafar a gan y cyfryngau torfol yn eithaf rheolaidd bellach. Mae'n dwyshau'r ymdeimlad hwnnw fod Cymru yn wlad, ac nid yn rhan o wlad artiffisial 'Prydain' (sef y [[DU]]). Gweler 'Y Dystiolaeth Brydeinig'<ref>[http://www.owainowain.net/yllenor/yrysgrif/ysgrifaucynnar/ysgrifaucynnar.htm#Y%20DYSTIOLAETH%20BRYDEINIG]</ref> gan [[Owain Owain]] yn Y Faner, 21/10/1965 ac athroniaeth ddiweddarach Yr Athro [[J. R. Jones]] yn ei gyfrol 'Prydeindod'.
Llinell 18:
Ceir peth amwysedd yn y defnydd a wneir o'r enw 'Gwledydd Prydain'. I rai mae'n golygu tair gwlad Prydain (Fawr), sef [[Yr Alban]], [[Cymru]] a [[Lloegr]], yn unig ond fe'i defnyddir hefyd fel enw amgen am y DU (a gamenwir yn 'Brydain' yn aml); ond dydy Prydain ddim yn cynnwys [[Gogledd Iwerddon]] nac yn ddaearyddol - am ei bod yn rhan o ynys [[Iwerddon]] - nac yn gyfansoddiadol o fewn y DU (gweler uchod).
 
== Cyfeiriadau ==
<references/>
 
 
== Gweler hefyd ==
*[[Ynys Brydain]] - yr enw Cymraeg traddodiadol ar yr ynys yn hanes traddodiadol Cymru.
*[[Teyrnas Prydain Fawr]]
Llinell 100:
[[tpi:Bikpela Briten]]
[[tr:Büyük Britanya Adası]]
[[tt:Бөекбритания (утрау)]]
[[uk:Великобританія (острів)]]
[[vi:Đảo Anh]]