Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
poblogaeth
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Y fach
Llinell 52:
[[Delwedd:SirFôn.jpg|bawd|240px|Logo y Cyngor]]
[[Delwedd:Isle of Angleseymap 1946.jpg|bawd|290px|Map OS o'r ynys o 1946]]
Sir ac [[ynys]] yng ngogledd-orllewin [[Cymru]] yw '''Ynys Môn''' ([[Saesneg]]: ''Anglesey'', [[Lladin]]: ''Mona''). Gwahenir yr ynys oddi wrth y tir mawr gan gulfor [[Afon Menai]]. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol [[Pont Yy Borth]] a godwyd gan [[Thomas Telford]] ym [[1826]] a'r un fwy, [[Pont Britannia]] sydd yn cysylltu'r [[A55]] â'r ynys ynghyd â [[Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru]]. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd poblogaeth yr ynys yn 69,751.<ref>{{cite web|url=http://www.neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/LeadKeyFigures.do?a=7&b=6275328&c=Isle+of+Anglesey&d=13&e=62&g=6488680&i=1001x1003x1032x1004&o=362&m=0&r=1&s=1431962441306&enc=1|title=Local Authority population 2011|accessdate=18 Mai 2015}}</ref>
 
Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae [[Ynys Gybi]], [[Ynys Seiriol]], [[Ynys Llanddwyn]] ac [[Ynys Moelfre]]. Dynodwyd arfordir yr ynys yn [[Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol]], ac mae [[Llwybr Arfordirol Ynys Môn]] yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael eu Seisnigeiddio dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith [[Gymraeg]] a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r [[Fro Gymraeg]]. Gweinyddir y sir gan [[Cyngor Sir Ynys Môn|Gyngor Sir Ynys Môn]] sydd â'i bencadlys yn [[Llangefni]].