Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Hanai Gruffydd Robert o sir Gaernarfon yng ngogledd Cymru, yn fab i ddau a enwir yn y ffynonellau fel Robert a Chatrin ferch Gruffudd. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, fe'i ganed tua 1527. Dyfarnwyd iddo radd M.A. o goleg [[Eglwys Crist, Rhydychen]] oddeutu 1555, ac fe'i penodwyd yn archddiacon Môn yn 1558. Yn fuan wedyn, bu farw [[Mair I, brenhines Lloegr|Mari I, brenhines Lloegr]]. Ar ôl i Elisabeth I ddod i'r orsedd, fe ailgyflwynwyd [[Protestaniaeth]] yng Nghymru a Lloegr trwy'r ail [[:en:Act_of_Supremacy_1558|Ddeddf Goruchafiaeth]] (1558 [1559]); fodd bynnag, parhaodd [[Catholigiaeth]] yn gryf mewn mannau yng Nghymru, ac yr oedd Gruffydd Robert yntau ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r Hen Ffydd.<ref name="ReferenceA">G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
Dewisodd Robert fynd yn alltud wedi marw'r Frenhines Mari; aeth i Fflandrys gyda'i ewyrth, [[Morys Clynnog]], gan dreulio cyfnod yn cynorthwyo'r ffoaduriaid Catholig a aeth yno i chwilio am loches. Tra buont yn Fflandrys, y mae'n ymddangos i'r ddau ohonynt ddilyn cyrsiau ym mhrifysgol [[Louvain|Leuven (Louvain]]), ac yn nes ymlaen yn ninas [[Bologna]] yn yr Eidal. Erbyn 1563, fe'u ceir yn yr Ysbyty Seisnig yn [[Rhufain]]: buasai [[:en:Thomas_Goldwell|Thomas Goldwell]], esgob [[Llanelwy]], yn warden ar yr Ysbyty er 1561, ac nid annichon ei fod wedi estyn gwahoddiad iddynt ymuno ag ef. Yno, ym mis Rhagfyr 1563, yr ordeiniwyd Robert yn offeiriad; erbyn Ionawr 1564 fe'iyr penodwyd,oedd gydaef a Morys Clynnog, ynwedi gaplaneu arpenodi'n gyfergaplaniaid yri'r Ysbyty. Fodd bynnag, yn 1565, gadawodd Robert yr Ysbyty a mynd i Filan yn un o gwmni o Gymry a Saeson eraill a oedd yn byw yn Rhufain. Erbyn 1567, yr oedd yng ngwasanaeth y Cardinal [[Carlo Borromeo]], Archesgob Milan. CyfeirirDaethpwyd i gyfeirio at Robert fel ''doctor''doethur mewn ffynonellau ym Milan, yn ogystal â ganchan [[Anthony Munday]] a [[Morris Kyffin]]: gall fod doethuriaeth wedi ei dyfarnu iddo yn [[Louvain|Leuven]], neu efallai ar ôl iddo ymgartrefu yn yr Eidal. Yr oedd dyletswyddau esgobaethol Robert yn eang; bu hefyd yn un o gyffeswyr rheolaidd Borromeo ac yn ganon diwinydd yn yr [[:en:Milan_Cathedral|Eglwys Gadeiriol]].
 
Yn ystod y pla enbyd a drawodd ddinas Milan yn 1576-777, hynododd Gruffydd Robert ei hun drwy gydlynufod yn un o'r rhai a gydlynodd ymateb yr archesgobaeth i anghenion y trigolion, aac fe gofnodir iddo myndfynd gyda Borromeo ar hyd a lled y ddinas yn dosbarthu bwyd a meddyginiaethau. Arhosodd Robert ym Milan am weddill ei oes fel prelad yng ngwasanaeth Borromeo a'i olynwyr, yr archesgobion Gaspare Visconti a Federico Borromeo. Yn 1582, am wahanol resymau, gofynnodd Robert am ganiatâd i ymddiswyddo o'i ddyletswyddau pregethwrol cyhoeddus. Er hynny, fe barhaodd yn ganon diwinydd yn y gadeirlan ac yn sensor archesgobaethol, ac fe ddyfarnwyd pensiwn iddo yn 1594. CofnodirYn iddoôl ddioddefcofnod amyn fisoedd''Libro dei Morti'' y ddinas ar gyfer 1598, dioddefodd lawer o'r gwaedlif ynam 1598fisoedd lawer; gofalwyd amdano yn ei waeledd gan Ludovico Settala, un o feddygon enwocaf Milan. Bu farw 15 Mai o'r flwyddyn honno.
 
==Ei ramadeg==
Cyhoeddwyd rhan gyntaf y gramadeg, sef ''[[Dosparth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg Cymraeg|Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg]]'', ym Milan yn 1567; y dyddiad a roddir ar wyneb-ddalen y gyfrol yw Dydd Gŵyl Ddewi. Ni cheir dyddiad ar gyfer y rhannau eraill, ond y tebyg yw fod yr ail, sy'n trafod yr wythran ymadrodd (''cyfiachyddiaeth'' yw gair Gruffydd Robert), wedi dod o'r wasg rywdrorywbryd ar ôl i Carlo Borromeo farw ym mis Tachwedd 1584; diau i Robert gael mwy o hamdden wedyn i weithio ar ei ramadeg.<ref name="ReferenceA" /> Cyhoeddwyd y drydedd ran (''tonyddiaeth'') a'r bedwaredd, sy'n trafod y cynganeddion a mesurau cerdd dafod, cyn 1598. Ymgom mewn [[gwinllan]] rhwng dau y cyfeirir atynt fel 'Gr.' (sef Gruffydd Robert ei hun) a 'Mo.' (Morys Clynnog) yw strwythur y gramadeg. Tueddir i ystyried dau waith arall o'i eiddo, sef casgliad o gerddi Cymraeg a chyfieithiad o ''[[De Senectute]]'' gan [[Cicero]] (cyfrol na ddaeth o'r wasg yn gyflawn), yn fath o atodiadau i'r gramadeg;<ref name="ReferenceA"/> er hynny, y mae'n llawn mor bosibl mai gweithiau annibynnol ydynt. Ef hefydRobert a olygodd yr ''Athravaeth Gristnogavl'', sef cyfieithiad Morys Clynnog o destun cateceiddiol gan yr Iesuwr, Diego de Ledesma, a'i lywio drwy'r wasg. Yr ''Athravaeth'' yw'r gyfrol Gymraeg gyntaf a gyfieithwyd yn uniongyrchol o gynsail Eidaleg.
 
==Llyfrau eraill==