Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 5:
Hanai Gruffydd Robert o sir Gaernarfon yng ngogledd Cymru, yn fab i ddau a enwir yn y ffynonellau fel Robert a Chatrin ferch Gruffudd. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, fe'i ganed tua 1527. Dyfarnwyd iddo radd M.A. o goleg [[Eglwys Crist, Rhydychen]] oddeutu 1555, ac fe'i penodwyd yn archddiacon Môn yn 1558. Yn fuan wedyn, bu farw [[Mair I, brenhines Lloegr|Mari I, brenhines Lloegr]]. Ar ôl i Elisabeth I ddod i'r orsedd, fe ailgyflwynwyd [[Protestaniaeth]] yng Nghymru a Lloegr trwy'r ail [[:en:Act_of_Supremacy_1558|Ddeddf Goruchafiaeth]] (1558 [1559]); fodd bynnag, parhaodd [[Catholigiaeth]] yn gryf mewn mannau yng Nghymru, ac yr oedd Gruffydd Robert yntau ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r Hen Ffydd.<ref name="ReferenceA">G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
Dewisodd Robert fynd yn alltud wedi marw'r Frenhines Mari; aeth i Fflandrys gyda'i ewyrth, [[Morys Clynnog]], gan dreulio cyfnod yn cynorthwyo'r ffoaduriaid Catholig a aeth yno i chwilio am loches. Tra buont yn Fflandrys, y mae'n ymddangos i'r ddau ohonynt ddilyn cyrsiau ym mhrifysgol [[Louvain|Leuven (Louvain]]), ac yn nes ymlaen yn ninas [[Bologna]] yn yr Eidal. Erbyn 1563, fe'u ceir yn yr Ysbyty Seisnig yn [[Rhufain]]: buasai [[:en:Thomas_Goldwell|Thomas Goldwell]], esgob [[Llanelwy]], yn warden ar yr Ysbyty er 1561, ac nid annichon ei fod wedi estyn gwahoddiad iddynt ymuno ag ef. Yno, ym mis Rhagfyr 1563, yr ordeiniwyd Robert yn offeiriad; erbyn Ionawr 1564 yr oedd ef a Morys Clynnog wedi eu penodi'n gaplaniaid i'r Ysbyty. Fodd bynnag, yn 1565, gadawodd Robert yr Ysbyty a mynd i Filan yn un o gwmni o Gymry a Saeson eraill a oedd yn byw yn Rhufain. Erbyn 1567, yr oedd yng ngwasanaeth y Cardinal [[Carlo Borromeo]], Archesgob Milan. Daethpwyd i gyfeirio at Robert fel doethur mewn ffynonellau ym Milan, yn ogystal â chan awduron megis [[Anthony Munday]] a [[Morris Kyffin]]: gallgeill fod doethuriaeth wedi ei dyfarnu iddo yn [[Louvain|Leuven]], neu efallai ar ôl iddo ymgartrefu yn yr Eidal. Yr oedd dyletswyddau esgobaethol Robert yn eang; bu hefyd yn un o gyffeswyr rheolaidd Borromeo ac yn ganon diwinydd yn yr [[:en:Milan_Cathedral|Eglwys Gadeiriol]].
 
Yn ystod y pla enbyd a drawodd ddinas Milan yn 1576-7, hynododd Gruffydd Robert ei hun drwy fod yn un o'r rhai a gydlynodd ymateb yr archesgobaeth i anghenion y trigolion, ac fe gofnodir iddo fynd gyda Borromeo ar hyd a lled y ddinas yn dosbarthu bwyd a meddyginiaethau. Arhosodd Robert ym Milan am weddill ei oes fel prelad yng ngwasanaeth Borromeo a'i olynwyr, yr archesgobion Gaspare Visconti a Federico Borromeo. Yn 1582, am wahanol resymau, gofynnodd Robert am ganiatâd i ymddiswyddo o'i ddyletswyddau pregethwrol cyhoeddus. Er hynny, fe barhaodd yn ganon diwinydd yn y gadeirlan ac yn sensor archesgobaethol, ac fe ddyfarnwyd pensiwn iddo yn 1594. Yn ôl cofnod yn ''Libro dei Morti'' y ddinas ar gyfer 1598, dioddefodd o'r gwaedlif am fisoedd lawer; gofalwyd amdano yn ei waeledd gan Ludovico Settala, un o feddygon enwocaf Milan. Bu farw 15 Mai o'r flwyddyn honno.