Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhys Meirion"

Ychwanegwyd 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (Gwybodlen wicidata)
Bu'n unawdydd gyda [[Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr|Rhaglen Cantorion Ifanc Jerwood, Opera Cenedlaethol Lloegr]] a [[Cwmni Opera Cymru|Chwmni Opera Cymru]]; ymhlith ei ganeuon mwyaf poblogaidd y mae 'Pedair Oed' a 'Llefarodd yr Haul' (gan [[Robat Arwyn]] a [[Robin Llwyd ab Owain]]).
 
Ymhlith ei uchafbwyntiau mewn cyngerddau, mae: cyngerdd gala yn [[Neuadd Frenhinol Albert]] gyda [[Bryn Terfel]], ei berfformiad cyntaf yng nghyngherddau Proms y BBC, a hynny ar y noson agoriadol (a ddarlledwyd ar BBC 2), recordiad byw gan y BBC o 9fed Symffoni rhif 9 [[Beethoven]] dan arweiniad Richard Hickox, Cyngerdd Dathlu ''[[Desert Island Disks]]'' yn y ''[[Royal Festival Hall Llundain]]'' a ''Requiem Verdi'' yn Neuadd Frenhinol Albert.
 
Canodd gyda Bryn Terfel ar yr albwm ''Benedictus'' - a gafodd ei gynnig am Wobr "Classical Brit" yn 2006.<ref>[http://www.harlequin-agency.co.uk/index.php?page=12&action=details&id=26 Gwefan ei Asiant "Harlequin Agency Limited", Caerdydd.]</ref>