Luned: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llawforwyn [[Iarlles y Ffynnon]] yn y Rhamant o'r un enw oedd [[Luned]]; daeth ei enw yn drosiad am ferch hardd.
 
Yn y chwedl ''Owain'', neu ''Iarlles y Ffynnon'', mae Luned yn cynorthwyo'r marchog, [[Owain ab Urien|Owain]], i ddianc o'i garchar ym morth castell yr Iarlles trwy roi iddo fodrwy hud. Mae'r fodrwy yn gwneud yr un sy'n ei gwisgo yn anweladawy ac mae Luned yn cuddio Owain mewn llofft ac yna'n ymbilio ar ei meistres i drefnu priodas rhyngddi ac Owain.
 
Yn nes ymlaen mae Owain yn rhyddhau Luned o garchar ac o dân gyda chymorth y llew cyfeillgar sy'n ei gynorthwyo. Cred rhai ysgolheigion mae'r un ydy Luned ac Iarlles y Ffynnon a bod seiliau'r chwedl yn gorwedd ym myd mytholeg y [[Celtiaid]].