Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwacáu'r dudalen yn llwyr
Nakon (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 565600 gan Only account ban (Sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1:
Croeso! [[Defnyddiwr:Deb|Deb]] 17:06, 14 Chwefror 2008 (UTC)
 
== [[Theorem Pythagoras]] ==
 
Rwyf wedi mentro altro peth ar yr erthygl hon - arall-eirio rhywfaint i rywbeth sy'n darllen yn rhwyddach yn 'y ngolwg i. Os nag yw'n plesio altrwch e nôl. Dwi' ddim yn siwr o 'fel y'i dybir yn gyffredinol'. Ydy 'fel y'i fynegir fel arfer' yn cyfleu'r ystyr? Grêt gweld erthygl arall ar fathemateg. [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 22:19, 11 Mawrth 2008 (UTC)
 
==A little help: [[Ecser]]==
 
Hi! I'm a Hungarian Wikipedia editor, my name is Norbert Kiss. I'm very proud of my village and I would like to read about it in a lot of langauges. I translated already it into 10 languages, but I can't speak Cymraeg. Could you help me. My village's English page is this: [http://en.wikipedia.org/wiki/ecser Ecser]. Could you translate the page of Ecser into Cymraeg? Then just link the side into the English version and I will see it, or you could write me, when it is ready. My hungarian Wikipedia side is: [http://hu.wikipedia.org/wiki/User:Eino81 My profile]. Or my e-mail is: eino@freemail.hu
 
Thank you!
Norbert
 
::Thank you again! It is very beautiful to read in Cymraeg! :) - Norbert
 
== Erthyglau llenyddiaeth ==
 
Cefais fy atgoffa o'r sgwrs ar erthyglau llenyddiaeth ar y Caffi pan cliriwyd y sgwrs i'r archif heddiw. Meddyliais, gan nad oedd neb wedi mentro cynnig sylw ar ôl fy llith i, y gadawn i neges fan hyn i holi a oedd y sylwadau o unrhyw ddefnydd i ti? [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 19:17, 12 Awst 2008 (UTC)
 
== Ymyriant ==
 
:Dim problem! Diolch am cywiro nhw anyway! Ma' just rhai geiriau gwyddonol yn rhai newydd ac weithiau nid ydyn't yn y geiriadur. Hwyl [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys]] 07:37, 26 Chwefror 2009 (UTC)
 
== Ti yw'r burum sy'n creu'r bara. ==
 
Ga i jest deud diolch i ti am yr holl waith solad, cadarn, pwysig rwyt ti'n ei wneud yma ar Wici. Efallai y gwaith pwysicaf yw tacluso, caboli, golygu... a mi rwyt ti'n bencampwr arni! Jest isio chdi wybod fod rhai ohonom yn gwerthfawrogi'r hyn rwyt ti wedi'i wneud. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 20:11, 28 Chwefror 2009 (UTC)
 
== Diolch yn fawr + Good Teamwork!! ==
 
Diolch yn fawr am eich help efo'r erthyglau ffiseg! We're getting somewhere!! A hefyd diolch am eich gwaith cywiro- mae'n dangos pa mor wael yw fy Nghymraeg i!!!
 
Nos Da, [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 23:34, 28 Chwefror 2009 (UTC)
 
== Dileu Cyflymder ==
 
Iawn os chi eisiau, ond mae'r ddau ychydig yn wahanol-
 
'''Mesuriad Sgalar''' yw buanedd (speed) oherwydd maint ydy o yn unig, e.e 10m
 
'''Maint fector''' yw cyflymder (velocity) oherwydd mae'n cynnwys maint a pellter e.e 10m i'r dde.
 
Mae e lan i chi- ond cofia cynnwys y gwahaniaeth yma yn yr un newydd :)
 
[[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 19:50, 1 Mawrth 2009 (UTC)
:Efallai dylem creu tudalen newydd- Buanedd a Chyflymder a cael redirects or lleill i'r tudalen yma?? [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 19:51, 1 Mawrth 2009 (UTC)
:: Wedi gwneud! [[Buanedd a chyflymder]] yw'r dudalen newydd- odi'r treiglo'n gywir yn y teitl? Pam nad ydych yn weinyddiwr? Chi'n gwneud llawer o waith arbennig o dda yma- chi sy'n gwneud y gwaith anodd o chywiro ni gyd! Os ydych eisiau bod yn weinyddiwr, gofynwch yn y caffi (fel llythyr cais) ac fe fydd y biwrocratiaid yn trafod!
 
:::[[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 20:06, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
::::Cytuno â sylwadau Rhys am waith Glanhawr. Roeddwn i'n meddwl yr un peth yn union yn gynharach pnawn 'ma. Dwi'n fodlon cynnig y "dyrchafiad" os ydy Glanhawr ei hun yn cytuno. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 20:20, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
:::::Baswn i'n fodlon ddod yn weinyddwr ond faint o waith ychwanegol byddai'n ddisgwyl i mi wneud? [[Defnyddiwr:Glanhawr|Glanhawr]] 20:42, 1 Mawrth 2009 (UTC)
::::::Dim mwy na chi'n gwneud ar y foment- mae'n just yn galluogi chi wneud tasgau fel symud tudalennau, blocio fandalwyr, golygu tudalennau sydd wedi diogelu....etc [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 20:48, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
:::::::[Gwrthdaro golygyddol!] Dim o gwbl, mae i fyny i ti. Mae'n rhoi i ti'r awdurdod i ddileu tudalennau diangen a blocio fandalwyr, dyna'r cwbl. A deud y gwir rydym ni'n eithriad i'r drefn yma ar y wici Cymraeg am fod gennym ni ganran uchel iawn o weinyddwyr, ond gan fod pob un o'r cyfranwyr rheolaidd yn weinyddwyr erbyn hyn mae'n ymddangos yn anheg i adael di allan. Ond dwi'n meddwl bydd rhaid i ni droi hyn yn "''closed shop''" am sbel wedyn ac adolygu'r sefyllfa a phenderfynu ar bolisi (does 'na ddim un ar hyn o bryd). Beth amdani? Bydd rhaid aros ychydig o ddyddiau i bobl gael mynegi eu barn. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 20:51, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
::::::::Ok te, dwi'n fodlon os bydd bawb yn cytuno. Diolch! [[Defnyddiwr:Glanhawr|Glanhawr]] 21:03, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
:::::::::Cytuno â Rhys ac Anatiomaros. Ond mae angen mynd drwy'r caffi er mwyn boddhau llythyren y ddeddf! Aros. Dal dy afael! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 21:11, 1 Mawrth 2009 (UTC)
 
== Llongyfarchiadau! ==
 
Llongyfarchiadau i ti, Glanhawr, rwyt ti'n weinyddwr rwan! [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 16:37, 4 Mawrth 2009 (UTC)
 
== Erthyglau newydd ==
 
Mae'n braf gweld dy gyfraniadau diweddar, Glanhawr, ond dwi ddim yn siwr ei fod yn dderbyniol i ti ychwanegu nhw i'r rhestr Erthyglau newydd fel hyn. Mae'n ymddangos fod Deb i ffwrdd neu ddim ar gael ers rhai dyddiau, ond fel rheol rydym yn gadael y dewis iddi hi. Mae hynny'n degach na chael cyfranwyr rheolaidd yn ei wneud (yn yr holl amser dwi wedi bod yn gyfranwr dydwi ddim wedi ychwanegu cymaint ag ''un'' erthygl i'r rhestr a baswn i byth yn meddwl am roi un o fy erthyglau fy hun arni). Y prif reswm dros y drefn yma (anysgrifenedig, mae'n wir...) yw osgoi cael sefyllfa lle mae pawb yn ychwanegu erthyglau i'r rhestr yn ôl eu mympwy, neu mi fasa'n draed moch arnom ni(!). Gobeithio dy fod yn cydweld. Cofion, [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:02, 31 Mawrth 2009 (UTC)
 
::Diolch Anatiomaros am adael imi wybod am hyn - fe wna'i ddadwneud fy newidiadau diwethaf i'r rhestr. Hwyl. [[Defnyddiwr:Glanhawr|Glanhawr]] 23:10, 31 Mawrth 2009 (UTC)
 
== [[Meet the Robinsons]] ==
 
Hi, unfortunately you protected the "wrong version". Please see the [http://www.imdb.com/title/tt0396555/ imdb] for the voice cast and revert the vandalism of [[Arbennig:Contributions/71.80.163.73]]. Thanks.--[[Arbennig:Contributions/80.145.58.236|80.145.58.236]] 23:19, 24 Mai 2009 (UTC)
 
: Dim ond er gwybodaeth, dw i wedi gwirio'r cast ar wefan imdb ac mae'n gywir nawr. [[Defnyddiwr:Rhodri77|Rhodri77]] 08:37, 25 Mai 2009 (UTC)