Kaiser Chiefs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sr:Kaiser Chiefs
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: af:Kaiser Chiefs; cosmetic changes
Llinell 1:
[[Delwedd:800px-Kaiser_Chiefs_in_Concert.jpg|thumb|right|Y Kaiser Chiefs yn perfformio mewn cyngerdd]]
Mae'r '''Kaiser Chiefs''' yn fand [[roc]] annibynnol o [[Leeds]] yn [[Lloegr]]. Ffurfiwyd y band ym 1997. Aelodau'r band yw'r prif leisydd Ricky Wilson, y gitarydd Andrew 'Whitey' White, Simon Rix ar y gitâr bâs, Nick 'Peanut' Baines ar yr allweddellau a'r drymiwr Nick Hodgson. Cafodd y band ei enwi ar ôl clwb pêl-droed Kaizer Chiefs o [[De Affrica|Dde Affrica]], sef tîm a chwaraeodd Lucas Radebe, cyn-ammddiffynwr Leeds United drosto.
 
Rhyddhawyd albwm cyntaf y grŵp, ''Employment'', yn 2005. Cafodd ei ysbrydoli yn bennaf gan gerddoriaeth 'Ton Newydd' a phync roc ar ddiwedd y 1970au, a chafodd yr albwm lwyddiant ryngwladol gyda gwerthiant o dros dri miliwn. Yn 2005, cyrhaeddodd yr albwm y rhestr fer ar gyfer [[Gwobr Mercury]]. Ar ail albwm y band, ''Yours Truly, Angry Mob'', roedd y gân "Ruby", a gyrhaeddodd rif un yn siart senglau y Deyrnas Unedig.
 
== Hanes y Band ==
 
=== Ffurfio'r Band a'r Blynyddoedd Cynnar (1996 - 2002) ===
 
Pan oeddent tua unarddeg oed, cyfarfu Nick Hodgson, Nick Baines a Simon Rix yn yr un dosbarth yn Ysgol St. Mary's, Menston ar gyrion dinas Leeds. Ar ôl iddynt adael ysgol, aeth Rix a Baines i brifysgolion ym 1996 tra arhosodd Hodgson yn ardal Leeds, lle cyfarfu â Andrew White a Ricky Wilson. Ffurfiodd Hodgson, White a Wilson fand o'r enw Runston Parva a oedd yn gamsillafiad bwriadol o bentref bychan yn [[Swydd Efrog]] o'r enw Ruston Parva. Pan fethodd Runston Parva gael cytundeb recordiau, ail-ffurfiwyd y grŵp o dan yr enw Parva pan ddychwelodd Rix a Baines o'r brifysgol. Llwyddodd y band tu hwnt i ffiniau dinas Leeds, a chawsant gytundeb recordiau yn 2001. Fodd bynnag, caeodd y cwmni recordiau yn fuan ar ôl hyn gan adael y band heb gytundeb a heb unrhyw gyfeiriad pendant. Penderfynodd y band y byddent yn anelu at sicrhau cytundeb recordiau hirach a dechreuasant o'r dechrau unwaith eto, gyda chaneuon newydd ac enw newydd: Kaiser Chiefs.
 
=== ''Employment'' (2004–2005) ===
[[Delwedd:Employment Kaiser Chiefs.jpg|thumb|left|Clawr eu halbwm "Employment"]]
Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, ''Employment'' ym mis Mawrth 2005. Cafodd ymateb da wrth y beirniaid cerddorol a ddisgrifiodd y gwaith fel "thrilling from beginning to end" a "quintessentially British, without pretension and most importantly, a whole lot of fun".[7] Cyrhaeddodd rif dau yn y siart albymau Prydeinig ac enillodd bump albwm platinwm am werthiant. Yn 2005, enwebwyd yr albwm am Wobr Mercury sef gwobr gerddorol a roddir yn flynyddol i'r albwm gorau o Brydain neu [[Iwerddon]] yn y flwyddyn flaenorol.
Llinell 16:
Y sengl gyntaf i gael ei rhyddhau o'r albwm oedd "Oh My God" yn 2004, a chyrhaeddodd rif chwech yn y siart senglau Brydeinig pan gafodd ei ail-rhyddhau ym mis Chwefror 2005. Yn 2007, cafodd y gân ei hail-recordio gan [[Mark Ronson]] a [[Lily Allen]] ar gyfer albwm Ronson Version. Dilynwyd y gân hon gan "I Predict a Riot". Yn 2007, cyrhaeddodd y gân hon rif trideg chwech yn rhestr [[NME]] o Anthemau [[Indie]] Gorau Erioed. Ar ddiwedd 2005, cyrhaeddodd y senglau "Everyday I Love You Less and Less" a "Modern Way" yr ugain uchaf yn y Siart Brydeinig. Agorodd y Kaiser Chiefs y gyngerdd [[Live Eight]] yn [[Philadelphia]] yn 2005, lle perfformiodd y band nifer o'u caneuon.
 
=== ''Yours Truly, Angry Mob (2007)'' ===
 
Rhyddhawyd ail albwm y Kaiser Chiefs, Yours Truly, Angry Mob ym mis Chwefror 2007. Recordiodd y grŵp yr albwm trwy gydol mis Medi ac Hydref 2006 yn Stiwdio Hook End yn [[Swydd Rhydychen]], [[Lloegr]]. Cafodd y grŵp eu hysbrydoli gan Led Zeppelin a cherddoriaeth roc Americanaidd, ac roeddent wedi recordio dros ddau-ddeg-dau cân.
Llinell 22:
Yn wahanol i 'Employment', derbyniodd yr albwm feirniadaethau amrywiol wrth y beirniaid a ddisgrifiodd yr albwm fel "an album full of jukebox hits" a "predictable".[12] Cyrhaeddodd Yours Truly, Angry Mob rif un yn yr siart albwm Prydeinig a rhif pedwar-deg-pump ar siart albwm y Billboard 200.[13]
 
"Ruby", sef prif sengl yr albwm oedd sengl cyntaf y Kaiser Chiefs i gyrraedd rhif un yn y siart senglau Prydeinig. Yr ail sengl o'r albwm i gael ei rhyddhau oedd "Everything Is Average Nowadays" a chyrhaeddodd rif undeg naw yn y [[Deyrnas Unedig]]. Cafodd y drydedd sengl o'r albwm ei disgrifio gan [[The Sun]] fel cân "clever, accessible pop" a chyrhaeddodd rif dauddeg dau yn y Deyrnas Unedig. Rhyddhawyd pedwaredd sengl y band "Love's Not a Competition (But I'm Winning)", ar Dachwedd y 12fed fel fersiwn sengl 7" i gasglwyr ar eu gwefan. Cyrhaeddodd rif cant a deuddeg yn y Deyrnas Unedig, safle siomedig iawn yn y siart.
 
=== '''Off With Their Heads (2007 - presennol)''' ===
 
Yn ddiweddar canslodd y Kaiser Chiefs y rhan fwyaf o'u taith yr Hydref o amgylch yr Unol Daleithiau gan ddweud eu bod yn rhy awyddus i ddechrau recordio eu trydedd albwm llawn: "We are just really desperate to write some new stuff," dywedodd y drymiwr Nick Hodgson wrth Billboard.com. Parhaodd gan ddweud "We don't know exactly what we're going to put out, but it will be next year [...] We're very keen on breaking the cycle of what normal bands do, which is album every two years and tour for a year-and-a-half and take six months to write... Not only does it get predictable, it gets boring. A lot of our contemporaries do the same thing." Yn ystod eu taith o amgylch y Deyrnas Unedig ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2007, perfformiodd y band tair cân newydd a fydd o bosib ar eu halbwm newydd. Roedd rhain yn cynnwys 'Never Miss A Beat' a 'You Want History'. Ym mis Ebrill 2008, cadarnhaodd y band y byddai [[Mark Ronson]] ynghyd ag Eliot James yn cynhyrchu eu trydydd albwm.
 
Bwriada'r Kaiser Chiefs fynd i stiwdio yn [[Leeds]], Lloegr cyn diwedd 2007 er mwyn gwneud peth paratoi cynnar. Yr unig ddyddiad ar daith y grŵp o amgylch yr Unol Daleithiau oedd yn Theatr Beacon, Efrog Newydd ar y 29ain o Fedi. Perfformiodd y band yno fel a gynlluniwyd.
Llinell 41:
Disgwylir y bydd y Kaiser Chiefs yn teithio ym mis Hydref gyda ''Late of the Pier'' a ''The Hair.'' Bydd y daith yn dechrau yn Academi Leeds, lleoliad perfformio newydd, a'r Kaiser Chiefs fydd y band cyntaf i berfformio yno. Mae dyddiadau eraill y daith yn cynnwys Academi [[Manceinion]], [[Southampton]] Guildhall, [[Reading]] Rivermead, [[Glasgow]] Barrowlands, [[Leicester]] De Montford a Forum [[Llundain]].
 
== Albymau ==
* ''[[Employment]]'' (2005)
* ''[[Yours Truly, Angry Mob]]'' (2007)
* ''[[Off with Their Heads]]'' (2008)
 
== Dolenni Allanol ==
{{Comin|Kaiser Chiefs}}
* [http://www.kaiserchiefs.co.uk/ Gwefan swyddogol]
Llinell 52:
[[Categori:Bandiau Seisnig]]
 
[[af:Kaiser Chiefs]]
[[ca:Kaiser Chiefs]]
[[cs:Kaiser Chiefs]]