Dyn Hysbys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Dyn Hysbys''' yw'r enw traddodiadol yn y Gymraeg am gonsuriwr, dewin neu swynwr. Er y gellir ei gymhwyso at berson o'r fath mewn unrhyw ddiwylliant mae…'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Dyn Hysbys''' yw'r enw traddodiadol yn y Gymraeg am gonsuriwr, [[dewin]] neu swynwr. Er y gellir ei gymhwyso at berson o'r fath mewn unrhyw ddiwylliant mae'r erthygl hon yn ymwneud â hanes y 'Dyn Hysbys' yng [[Cymru|Nghymru]].
 
Mae'n anodd diffinio union swyddogaeth y Dyn Hysbys am fod y dystiolaeth yn amrywio o ardal i ardal ac o oes i oes, ond gellir dweud yn gyffredinol ei fod yn feddu ar allu i amddiffyn pobl ac anifeiliaid rhag [[swyn]]ion maleisus - a fwrid gan [[gwrach|wrachod]], er enghraifft - ac i ddarogan y dyfodol a gwella afiechydon. Roedd felly yn 'ddewin' ac yn feddyg, yn hyddysg yng nghyfrinachau [[llysiau rhinweddol]].
 
Ymddengys fod rhai Dynion Hysbys yn perthyn i deuluoedd o ddewiniaid a meddygon gwlad gyda'r grefft wedi ei throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth; yr enghraifft enwocaf efallai yw [[Meddygon Myddfai]]. Cofier fod trosglwyddo crefft o fewn teulu fel hyn yn beth cyffredin mewn meysydd eraill tan yn ddiweddar ac yn enwedig o amlwg yn yr Oesoedd Canol. Cofnodir teulu o'r fath yn ardal [[Llangurig]], Maldwyn.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', d.g. Dyn Hysbys.</ref>
Llinell 7:
Ceir dosbarth arall o Ddynion Hysbys a ddysgai eu gwybodaeth yn rhannol neu'n bennaf o lyfrau, gan fenthyg o draddodiadau ocwlt am y [[Sidydd]] ac ati sy'n gyffredin i sawl diwylliant gan darddu o'r [[Aifft]] a [[Mesopotamia]] yn y pen draw, yn ôl pob tebyg. Perthyn i'r dosbarth hwn oedd y 'Doctor' [[John Harries]], [[Cwrt-y-cadno]], ond roedd ef a'i fab Henry yn feddygon gwlad hefyd. Byddai'r ddau yn hysbysebu eu doniau sêr-ddewinol ar draws [[Sir Gaerfyrddin]] ar ddechrau'r 19eg ganrif trwy ddosbarthu taflenni yn disgrifio eu gwasanaethau, e.e. rhagweld ffawd neu anffawd o briodas arfaethedig.
 
Gallai pobl fel beirdd a gwŷr eglwysig fod yn Ddynion Hysbys hefyd. Un o'r enwocaf oedd [[Edmwnd Prys]], [[Esgobaeth Bangor|Archddiacon Meirionnydd]] ar droad yr 17eg ganrif. Roedd rhai o'r beirdd yn gysylltiedig â byd y consuriwr hefyd, fel [[Huw Llwyd]] o Gynfal: gelwir craig fawr ger [[Afon Cynfal]] yn 'Bwlpud Huw Llwyd' a dywedir ei fod yn mynd yno i gonsurio. Yn y cyd-destun yma, cofier fod gan Gymru'r Oesoedd Canol ei [[Canu Darogan|brudwyr]] — dosbarth o feirdd a ganai gerddi proffwydol gwleidyddol, gan amlaf yn sôn am ddyfodiad y [[Mab Darogan]] — er nad oeddent yn Ddynion Hysbys fel y cyfryw.
 
== Cyfeiriadau ==