Bob Evans (rygbi'r undeb): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SUSANREES (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Bob Evans (rugby union)"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:57, 4 Gorffennaf 2018

Roedd Bob Evans (16 Chwefror 1921 - 14 Ebrill 2003) yn faswr gydag undeb rygbi Cymru a chwaraeodd rygbi i glwb Gasnewydd a rygbi sirol i Sir Fynwy. Chwaraeodd mewn deg gem rhyngwladol i Gymru, a chafodd ei ddewis ar gyfer y Llewod Prydeinig gan chwarae ym mhob un o'r chwe gem ar y daith i Awstralia a Seland Newydd yn 1950.

Bob Evans
Enw llawn Robert Thomas Evans[1]
Dyddiad geni (1921-02-16)16 Chwefror 1921
Man geni Rhymney, Wales[2]
Dyddiad marw 14 Ebrill 2003(2003-04-14) (82 oed)
Lle marw Abergavenny, Wales
Taldra 6 ft 0 in (1.83 m)
Pwysau 13 st 8 lb (86 kg; 190 lb)
Ysgol U. Rhymney School
Gwaith police officer
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Flanker
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
?
?
1945-1952
Abergavenny RFC
Rhymney RFC
Newport RFC
Monmouthshire
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1947-1951
1950
Wales
British Lions[3]
10
6
(3)
(0)

Roedd Evans yn daclwr blaengar, ond gwelwyd ei sgil yn ei leoliad amddiffynnol deallus. Byddai'n aml yn eistedd y tu ôl i'r tri chwaraewr canol cae i sicrhau, pe bai symudiadau wrth iddynt fynd heibio yn torri i lawr, na allai'r gwrthwynebwyr gwrthweithio. Roedd yn arbenigo mewn diddymu chwarae'r maswyr  a byddai'n aml yn amharu ar driawdau canol-cae'r gwrthwynebwyr gan achosi iddynt wneud camgymeriadau yn eu chwarae heb hyd yn oed weithio'n agos gyda hwy.

Gyrfa rygbi

Enillodd Evans gap ysgolion uwchradd Cymraeg tra'n Ysgol Uwchradd Rhymni, ac ar ôl gadael yr ysgol ymunodd â Heddlu Sir Fynwy. Ym 1943, ymunodd â'r Llu Awyr Brenhinol a chwaraeodd rygbi ar gyfer nifer o dimau unedau. Yn dilyn hynny, ymunodd â'r heddlu a chafodd ei ethol yn gapten o'r clwb rygbi lleol yn Rhymni. Fe'i gwahoddwyd i chwarae i Gasnewydd yn erbyn Abertawe yn 1945 mewn gêm yn St Helens, ac ymunodd â'r 'black and ambers' y tymor hwnnw.

Ar 22 Mawrth 1947, dewiswyd Evans i i chwarae i Gymru yn erbyn Ffrainc yn Stade Colombes. Roedd Evans yn eilydd hwyr, gan ddisodli Ossie Williams a gafodd ei anafu, a chynrychiolodd Cymru ar ddeg achlysur, gan sgorio ei unig gais yn ystod ei ail gêm, yn erbyn Iwerddon.

Gemau rhyngwladol a chwareuwyd

Cymru[4]

Bywgraffiad

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeirnodau