Eindhoven: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'thumb|de|250px|Golygfa o Eindhoven Dinas yn nhalaith Noord-Brabant yn yr Iseldiroedd yw '''Eindhoven'''. Hi yw dinas…' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:18, 13 Mehefin 2009
Dinas yn nhalaith Noord-Brabant yn yr Iseldiroedd yw Eindhoven. Hi yw dinas fwyaf Noord-Brabant a'r bumed dinas yn yr Iseldiroedd o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 209,286 yn 2006.
Ceir y cofnod cyntaf am Eindhoven yn 1232, pan roddodd Hendrik I, Dug Brabant, hawliau dinas iddi. Yn 1554, dinistriwyd 75% o'r tai mewn tân. Ail-adeiladwyd hwy tua 1560 gyda chymorth Wiliam I, Tywysog Orange. Wedi'r Chwyldro Diwydiannol, tyfodd y ddinas yn gyflym.