Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Meicen a mwy |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosododd [[Edwin, brenin Northumbria|Edwin]] o [[Deira]] ([[Northumbria]] heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag [[Ynys Môn]] gan orfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, [[Cadfan]], ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Daeth Cadwallon i gytundeb â [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym [[Brwydr Meicen|Meicen]] (neu Meigen: "Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]]
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef mewn brwydr ger [[Hexham]] yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
|