Shunga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
Ond rhan o ddiwylliant soffisteigedig y llys yw'r gwaith erotig cynnar sydd wedi goroesi. Roedd shunga ei hun yn waith celf ar lefel mwy poblogaidd, a hybwyd yn enfawr gan ddatblygiadau mewn technoleg printio a gallu'r dosbarth cynyddol bwysig o farsiandiwyr a phobl dosbarth canol i brynu llyfrau a gwaith celf.
 
Ystyrir mai [[Moronubu|Hishikawa Moronobu]] (1618-1694) yw'r artist mawr cyntaf yn y mudiad shunga. Darluniau ar gyfer llyfrau yw trwch ei waith, sy'n cynnwys cynran sylweddol o luniau shunga. Dilynwyd ef yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif gan rhai o feistri mawr ukiyo-e, a gynrycholir yn bennaf gan [[Hokusai]], yr enwocaf a mwyaf dylanwadol o artistiaid Siapaneaidd yn y Gorllewin. Mae gwaith Hokusai yn cynnwys darluniau a phaentiadau ar nifer o bynciau, o flodau a merched i dirluniau, ond llai adnabyddus yw'r pum llyfr a dwy albwm o luniau shunga a gynhyrchodd ac a ystyrir yn glasuron yn y maes. Fel yn achos sawl cyfres arall o luniau shunga gan artistiaid llai adnabyddus, mae'r lluniau hyn yn storïol ac yn cynnwys testun Siapaneg. Yr enwocaf o luniau shunga Hokusai yw ''[[Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr]]''.
 
Cafodd arddull darluniau shunga ddylanwad mawr ar rai artistiaid yn [[Ewrop]] yn ail hanner y 19eg ganrif, yn enwedig [[Manet]] ac eraill yn [[Ffrainc]], ac felly bu'n un o'r dylanwadau a arweiniodd at y mudiad [[Argraffiadaeth]] (''Impressionism'') a'r mudiadau newydd eraill a'i ddilynodd.