Shunga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 7:
Yn hanesyddol, mae agwedd y [[Japaneaid]] tuag at ryw yn llawer mwy agored nac yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau Gorllewinol. Ceir nifer o ddisgrifiadau erotig yn llenyddiaeth Japan o'r cyfnod [[Heian]] ymlaen; mae 44 allan o 54 pennod y nofel enwog ''Genji monogatari'' (tua 1100), gan yr Arglwyddes [[Murasaki Shikibu]], yn disgrifio'n fanwl anturiaethau carwrol y tywysog ifanc Genji, er enghraifft. O'r un cyfnod ceir sgroliau hir - ''makemono'' - ac mae'r rhain yn cynnwys enghreifftiau o ddarluniau erotig. Roedd digon o lawlyfrau rhyw ar gael hefyd, yn aml gyda lluniau i'w esbonio.
 
Ond rhan o ddiwylliant soffisteigedigsoffistigedig y llys yw'r gwaith erotig cynnar sydd wedi goroesi. Roedd shunga ei hun yn waith celf ar lefel mwy poblogaidd, a hybwyd yn enfawr gan ddatblygiadau mewn technoleg printio a gallu'r dosbarth cynyddol bwysig o farsiandiwyr a phobl dosbarth canol i brynu llyfrau a gwaith celf.
 
Ystyrir mai [[Moronubu|Hishikawa Moronobu]] (1618-1694) yw'r artist mawr cyntaf yn y mudiad shunga. Darluniau ar gyfer llyfrau yw trwch ei waith, sy'n cynnwys cynran sylweddol o luniau shunga. Dilynwyd ef yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif gan rhai o feistri mawr ukiyo-e, a gynrycholir yn bennaf gan [[Hokusai]], yr enwocaf a mwyaf dylanwadol o artistiaid Siapaneaidd yn y Gorllewin. Mae gwaith Hokusai yn cynnwys darluniau a phaentiadau ar nifer o bynciau, o flodau a merched i dirluniau, ond llai adnabyddus yw'r pum llyfr a dwy albwm o luniau shunga a gynhyrchodd ac a ystyrir yn glasuron yn y maes. Fel yn achos sawl cyfres arall o luniau shunga gan artistiaid llai adnabyddus, mae'r lluniau hyn yn storïol ac yn cynnwys testun Siapaneg. Yr enwocaf o luniau shunga Hokusai yw ''[[Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr]]''.