Islam yn ôl gwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Islam]] yw'r ail grefydd fwyaf yn y byd ar ôl [[Cristnogaeth]] gyda 1.3-1.8 biliwn o gredadwyr, sy'n cynnwys 20-25% o boblogaeth y byd<ref>[http://www.adherents.com/Religions_By_Adherents.html#Islam Adherents.com]</ref> gyda'r rhan fwyaf o ffynonellau yn amcangyfrif fod tua 1.5 biliwn o Fwslimiaid yn y byd.<ref>[http://www.adherents.com/Religions_By_Adherents.html Adherents.com]</ref><ref>[http://www.adherents.com/adh_branches.html#Islam Adherents.com]</ref>
 
Islam yw'r brif grefydd yn y [[Dwyrain Canol]], rhai rhannau o [[Affrica]]<ref>"The Africanization of Missionary Christianity: History and Typology", Steven Kaplan, ''Journal of Religion in Africa'' 16 (3) (1986), 165-186. [http://www.csmonitor.com/2006/0126/p01s04-woaf.html "In Africa, Islam and Christianity are growing - and blending"]. Abraham McLaughlin, ''[[The Christian Science Monitor]]'', 26 Ionawr 2006.</ref><ref>''Encyclopedia Britannica''. Britannica Book of the Year 2003. Encyclopedia Britannica, (2003) ISBN 978-0-85229-956-2 tud. 306.</ref> ac [[Asia]].<ref>Britannica [http://web.archive.org/web/20080819200204/http://media-2.web.britannica.com/eb-media/31/3731-004.gif], Think Quest [http://library.thinkquest.org/05aug/02016/images/map_of_religions.png], Wadsworth.com [http://www.wadsworth.com/religion_d/special_features/popups/maps/matthews_world/images/w001.jpg]</ref> Ceir cymunedau sylweddol o Fwslimiaid yn [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Ngweriniaeth Pobl Tsieina]], [[Bosnia a Herzegovina-Hertsegofina]], [[Dwyrain Ewrop]] a [[Rwsia]] hefyd. Mewn rhai rhannau eraill o'r byd, ceir poblogaethau o fewnfudwyr Mwslimaidd; yng [[Gorllewin Ewrop|Ngorllewin Ewrop]] Islam yw'r ail grefydd fwyaf ar ôl Cristnogaeth.
 
Mewn tua 30 i 40 o wledydd y byd mae Mwslimiaid yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth. [[De Asia]] a [[De-ddwyrain Asia]] yw'r rhanbarthau lle ceir y gwledydd Mwslim mwyaf; Ceir dros 100 miliwn o Fwslimiaid ym mhob un o'r gwledydd hyn: [[Indonesia]], [[Pacistan]], [[India]] (lleiafrif), a [[Bangladesh]].<ref>[http://www.nationmaster.com/graph/rel_isl_num_of_mus-religion-islam-number-of-muslim ''Number of Muslims by country'']</ref> Yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau, roedd yna dros 20 miliwn Mwslim yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 2006 (canran isel o'r boblogaeth er hynny, yn byw yng ngorllewin y wlad yn bennaf).<ref>[http://www.state.gov/g/drl/rls/irf/2006/71338.htm 'International Religious Freedom Report 2006—China'] (yn cynnwys Tibet, Hong Cong, a Macau).</ref> Yn y [[Dwyrain Canol]], [[Twrci]] ac [[Iran]], sydd ddim yn wledydd Arabaidd, yw'r gwledydd mwyaf gyda mwyafrif Mwslimaidd; yn [[Affrica]], ceir y cymundau Mwslim mwyaf yn [[Yr Aifft]] a [[Nigeria]]. Mae mwyafrif llethol poblogaeth gwledydd y [[Maghreb]] yn Fwslimiaid hefyd.