Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Catraeth"

Ychwanegwyd 27 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
manion
(brwydrau Cymru)
(manion)
Enw lle sy'n ymddangos yn y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef [[yr Hengerdd]], o'r [[Hen Ogledd]] yw '''Catraeth'''.
 
Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn ''[[Y Gododdin]]''', sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn [[600]]. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd [[Brythoniaid|Brythonig]] ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn ([[Caeredin]] heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr [[Eingl]] ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn. Ceir cyfeiriadau at yr arwyr yn mynd i Gatraeth ar ddechrau amryw o'r penillion, er enghraifft "GwyrGwŷr a aeth gatraethGatraeth gan wawr".
 
Yng [[Canu Taliesin|Nghanu Taliesin]], sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir [[Urien Rheged]], arglwydd [[Rheged]] fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).
 
Yr ysgolhaig Cymreig [[Thomas Stephens]] yn y [[19eg ganrif]] oedd y cyntaf i gynnig mai [[Catterick]] yn [[Swydd Efrog]] yng ngogledd [[Lloegr]] oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr [[Ifor Williams]] a chan y rhan fwyaf o ysgolheigion ers hynny.