BBC: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 51:
Adran neu ranbarth cenedlaethol y BBC ar gyfer [[Cymru]] yw [[BBC Cymru]] ([[BBC Wales]]).
 
Mae BBC Cymru yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd [[S4C]], rhaglenni radio yn Gymraeg ar [[BBC Radio Cymru]] ac arlein ar wefan BBC Cymru, a phob math o bropaganda Prydeinig drwy gyfrwng y Gymraeg.
 
Mae'r wefan BBC yn cynnwys [[newyddion]], [[chwaraeon]], [[tywydd]], a gwybodaeth traffig a theithio, gwybodaeth am raglenni [[BBC Cymru]] a [[Radio Cymru]], ac erthyglau ac adolygiadau ar nifer o bynciau yn cynnwys [[crefydd]], [[y celfyddydau]], [[hanes]] ac [[iaith]]. Mae hefyd yn cynnwys rhaglenni Cymraeg ar [[BBC iplayer]]. Roedd yr is-wefan yn darparu meddalwedd o'r enw "BBC Vocab/Geirfa" ar gyfer dysgwyr y Gymraeg, sy'n uwcholeuo rhai geiriau ac yn rhoi cyfieithiad/au [[Saesneg]] os lleolir y cyrchwr dros y gair. Yn y [[2010au]] mabwysiadwyd Vocab gan yr Uned Technolegau Iaith a dilewyd y gair BBC o'r botwm.<ref>yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 272/3</ref><ref>[http://techiaith.cymru/ategion/vocab/ Uned Techolegau Iaith, Bangor.]</ref> Mae'n defnyddio geiriaduron yr uned i'r perwyl.